Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Iau, 08 Tac 07 16:05:00
Fforwm yw Gŵyl Lens i ffotograffwyr proffesiynol ac amatur, archifwyr a chasglwyr, haneswyr a newyddiadurwyr i drafod ffotograffiaeth yng Nghymru ac i wybod mwy am gyfoeth ffotograffau Cymru.
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn casglu ffotograffau sy’n cofnodi pobol a lleoedd yng Nghymru a’r bywyd Cymreig cyffredin. Mae’r casgliad yn cynnwys tua 800,000 o ddelweddau sy’n dyddio o ddyddiau cynharaf ffotograffiaeth hyd at y presennol. Dyma’r casgliad cenedlaethol mwyaf a chyfoethocaf o ffotograffau Cymreig sydd mewn bodolaeth, ac mae’r arddangosfa’n siawns i edmygu detholiad bychan o weithiau o’r casgliad ar y thema ‘ Pobl a Phortreadau’.
Mae'r arddangosfa'n cynnwys gwaith Bernard Mitchell a phortreadau o ddrwgweithredwyr.
Mwy o wybodaeth - Gwefan Lens