Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Sad, 16 Chw 08 09:30:00
Arddangosfa yw hon i gyfleu’r traddodiad hir o brotestiadau yng Nghymru. Bu’r 19eg ganrif yn arbennig o derfysglyd gyda dyfodiad y dirwasgiad economaidd a’r chwyldro diwydiannol. Ymddangosodd Merched Beca a Rhyfel y Degwm yn yr ardaloedd amaethyddol a daeth y Siartwyr yn ddylanwadol yn y trefi diwydiannol. Bu anghydfod chwerw iawn rhwng gweithwyr a pherchenogion yn chwareli llechi’r gogledd ac ym mhyllau glo’r de.
Ar droad yr 20fed ganrif gwelwyd y Swffragetiaid yn ymgyrchu am hawliau i ferched a mynegwyd gwrthwynebiad cydwybodol i’r Rhyfeloedd Byd. Daeth cenedlaetholdeb yn flaenoriaeth i rai Cymry ac yn sgil twf Plaid Cymru a Chymdeithas yr Iaith trefnwyd protestiadau lu i sicrhau parhad yr iaith.