Tue, 30 Sep 08 11:34:00
Cardiau post, eisteddfodau ysgol, gemau rygbi a dawnsio gwerin - dyma rai o’r llefydd y gwelwch chi’r Wisg Draddodiadol Gymreig heddiw. Ond beth yw hanes y wisg - a faint o wirionedd sydd yn ei datblygiad i fod yn eicon answyddogol o Gymru?
Bydd arddangosfa fawr yr haf eleni yn rhoi hanes y Wisg Draddodiadol Gymreig ac yn esbonio o le y daeth a pham y’i gwisgwyd. Trefnydd yr arddangosfa yw Michael Freeman, Curadur Amgueddfa Ceredigion yn Aberystwyth. Mae ganddo ddiddordeb mawr yn y wisg ers blynyddoedd ac yn sgil ei waith ymchwil, darllenodd dros 40,000 o eiriau a ddefnyddiwyd i ddisgrifio’r wisg yn y 18fed a’r 19eg ganrif.
Un o’r pethau mwyaf nodweddiadol am y wisg a wisgwyd gan ferched Cymru ar ddiwedd y 18fed ganrif yw’r ‘betgwn’ sef y siaced goler isel gyda chynffon oedd yn boblogaidd iawn ar draws Ewrop ar un adeg. Ond am ryw reswm, parhaodd mewn ffasiwn yn hirach yng Nghymru nag unman arall. Nodwedd unigryw arall y betgwn Cymreig oedd ei fod wedi ei wau o wlanen streipïog - cotwm neu “mix” cotwm oedd y ffasiwn yn Lloegr. Dengys ymchwil ddiweddar fod amrywiaeth steil o fewn Cymru ar gyfer y betgwn a’r het draddodiadol hefyd.
Ar ffurf ffotograffau, printiau, peintiadau, cardiau post ac enghreifftiau o wisgoedd, bydd yr arddangosfa yn archwilio tarddiad a datblygiad y wisg dros y blynyddoedd. Gallwch weld yr arddangosfa yn y Llyfrgell Genedlaethol rhwng 21 Mehefin - 4 Hydref 2008. Yn cyd-redeg â’r arddangosfa yn y Llyfrgell bydd arddangosfa arall yn Amgueddfa Ceredigion yn Aberystwyth rhwng 21 Mehefin a 30 Awst 2008.
Bydd angen y fersiwn ddiweddaraf o Adobe Flash Player arnoch er mwyn gweld y fideo hwn. Gallwch lawrlwytho'r fersiwn ddiweddaraf yma.