Mon, 23 Jun 08 09:55:00
Mae arddangosfa ffotograffau lliw, fformat mawr Tina Carr ac Annemarie Schone yn edrych ar realiti bywyd mewn un cwm bychan yng Nghymru, 10 milltir i mewn i’r tir o Port Talbot. Yma mae’r delweddau’n diffinio’r cyd-destun ffisegol, yr amgylchedd, yn ogystal â darlunio’r bobl sy’n trigo yn y cwm hwnnw. Mae tri phrosiect sylweddol yng Nghwm Afan Uchaf er 1990 nid yn unig wedi arwain at yr arddangosfa hon ond hefyd at lyfr i gyd-fynd sy’n dwyn y teitl - “Coalfaces - Life After Coal in the Afan Valley”, a’r rhodd hael o archif fideo yn ei chyfanrwydd i Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru. Disgrifiad y ffotograffwyr o’u rôl yw “hwyluswyr sy’n rhoi pŵer i gymuned i fynegi pryderon sy’n cyffwrdd pawb ohonom, yn enwedig yma yng Nghymru, gan hefyd gyfeirio’n arbennig at gyflwr presennol y cymoedd a’u cymunedau adfydus.”
Mae’r ddau ffotograffydd wedi byw yng Ngheredigion am 25 mlynedd bellach, ac wedi cydweithio’n agos ar nifer o brosiectau a chomisiynau, yn eu plith “Pigs and Ingots”, sef astudiaeth o fwyngloddiau plwm ac arian Ceredigion a esgorodd ar arddangosfa, ac ar eu llyfr cyntaf a gyhoeddwyd gan Y Lolfa yn 1993. Enillodd eu gwaith nifer o wobrau ac mae’n cael ei ddal mewn casgliadau cyhoeddus a phreifat yn y DU a thu hwnt. Yn 2003 enillasant Wobr Cymru Greadigol.
Mae’r arddangosfa’n parhau hyd at 6 Medi 2008