Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

The National Library of Wales

What's On?

Mapio’r Grŵp Cymreig yn 60

Wed, 08 Oct 08 14:00:00


Mae Mapio’r Grŵp Cymreig yn 60 yn arddangosfa deithiol sylweddol i gydnabod penblwydd y Grŵp Cymreig yn drigain oed a’i weithgaredd yn dilyn datganoli yng Nghymru. Trefnydd ac ymchwilydd yr arddangosfa yw Dr Ceri Thomas, ac mae’n cynnwys detholiad arbennig o weithiau gan gyn-aelodau ac aelodau presennol o’r grŵp ar y themâu canlynol:

Tir / Môr
Cof / Myth / Lle
Corff / Meddwl / Ffurf / Symbol
Natur / Bywyd llonydd / Haniaeth / Cydosodiad

Mae cyhoeddiad darluniadol ar gael i gyd-fynd â’r arddangosfa, a bydd detholiad o weithiau ar werth.

Mae’r prosiect wedi ei ariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Cymdeithas Gelfyddyd Gyfoes Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru a’r Grŵp Cymreig.

Bydd yr arddangosfa i’w gweld yn y Llyfrgell Genedlaethol o 8 Tachwedd 2008 tan 31 Ionawr 2009, ac yn teithio i’r Academi Frenhinol Gymreig yng Nghonwy (14 Chwefror - 15 Mawrth 2009) ac Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd yng Nghasnewydd (18 Ebrill - 13 Mehefin 2009).



Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â'r lleoliadau ar y daith neu Ceri Thomas
Ceri Thomas (ffôn 01792 455371) ebost   cthomas1 at glam.ac.uk
 (Defnyddiwch @ yn lle 'at' i ddanfon ebost)

Copyright © Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales 2006

Last Updated: 11-10-2010