Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

The National Library of Wales

What's On?

Gareth Parry - Rhai Llefydd, Rhai Pobl

Mon, 24 Nov 08 16:36:00


Yn enedigol o Flaenau Ffestiniog, mae Gareth wedi treulio’r rhan fwyaf o’i fywyd yn yr ardal. Ffurfiwyd llawer o’i agwedd at fywyd gan y bobl, annhegwch y diwydiant llechi a thirwedd yr ardal; datblygwyd ynddo deimlad o ymlyniad at fro, ymwybyddiaeth o hynafiaid, parch at natur a chariad ddofn at gefn gwlad. 

Fel mae ei waith wedi datblygu, mae ei gariad at y fro a’i thirwedd wedi parhau ond gwelwn fwy o bwyslais ar effaith y golau, dylanwad y tywydd, y tymor a’r amser o’r dydd sydd yn rhoi bywyd i’r olygfa. Trwy ei drafodaeth o’r paent, a’i ddewis o liwiau mae’n ceisio dal naws ac awyrgylch y foment. 

Yn ei dirluniau a’i luniau portreadol mae Gareth yn pwysleisio ar fynegiant a naturioldeb digymell, gan greu gwaith sydd yn rhydd ond yn deimladwy hefyd.

Mae’r darluniau portreadol yn adlewyrchiad o fywyd pob dydd yng Nghymru, yn seiliedig ar ddarnau o sgwrs a drawodd ar ei glyw, ar brofiadau, teimladau, testunau neu olygfeydd. Mae llawer o’r darnau yn dangos pobl gyffredin yn mynd o gwmpas eu bywydau, tra mae eraill yn cynrychioli ymdrech i nodi hiwmor naturiol ac eironi bywyd.

Mae Gareth bob amser wedi meddwl am ei hun fel peintiwr, nid artist. Mae paent, a thrafod paent, yn fwy pwysig iddo ef a’i waith na ‘syniadau’. Mae’n credu gall y synhwyrau gael eu cynhyrfu, i'r raddau, gan arwyneb paentiad, a bod lliw yn unig, trwy ‘ysgrifen’ neu ‘côd’ personol yr arlunydd, yn medru creu naws. 

Er bod rhai o’r gweithiau yma yn adlewyrchu edmygedd Gareth o arlunwyr mawr fel Caravaggio, mae’n awyddus i’r gynulleidfa eu mwynhau yn syml - fel peintiadau!

Caiff yr arddangosfa ei dangos yn y Llyfrgell Genedlaethol o 6 Rhagfyr 2008 – 28 Chwefror 2009.  Gweithiau ar werth.

Copyright © Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales 2006

Last Updated: 11-10-2010