Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

The National Library of Wales

What's On?

John Meirion Morris - Grymoedd

Thu, 29 Jan 09 11:43:00

28 Chwefror 2009 - 29 Mai 2009

Ganed John Meirion Morris yn 1936, yn fab i siopwr o Lanuwchllyn, ger y Bala. Astudiodd yng Ngholeg Celf Lerpwl, lle y cwblhaodd gwrs ôl-radd mewn cerflunio. Ar y sylfaen hon, adeiladodd yrfa fel darlithydd a datblygodd i fod yn un o gerflunwyr mwyaf blaenllaw Cymru.

Mae John yn adnabyddus gan iddo bortreadu rhai o gymeriadau enwocaf Cymru, megis yr awdur i blant, y diweddar T Llew Jones, y cyn-fardd Cenedlaethol, Gwyn Thomas, Gerallt a ‘Gwenallt’. Gellir gweld amryw o’r portreadau hyn yn yr arddangosfa. 

Yn 1966, symudodd John i Affrica lle y bu’n darlithio ym Mhrifysgol Kumasi yn Ghana. Yna dychwelodd i Gymru, i ddarlithio yn Aberystwyth i ddechrau, ac yna ym Mangor. Ysbrydolwyd John gan ei brofiadau yn Ghana a chan symbolaeth, crefydd a diwylliant yr ardal, a daeth hyn i’r amlwg yn ei weithiau.

“Teimlaf ymhob delwedd sy’n fy ysgogi yn fy nychymyg fod rhyw bresenoldeb rhyfeddol iddynt ynghyd ag awgrym o ymollwng mawr. Teimlaf eu bod yn awgrymu profiad ysbrydol na allaf byth ei esbonio. Dyna yw’r prif gymhelliad i greu fel arfer. Mater o gredu mewn Duw yw crefydd, ond hwyrach, yn yr oes sydd ohoni, bod angen ailystyried a sylweddoli mai rhywbeth mewnol yw hanfod crefydd.

Teimlaf yn aml fod y delweddau a welaf yn fy meddwl, ac yn fy nychymyg, nid yn unig yn ysbrydol ond hefyd yn adlewyrchu ein hanghenion a’n gofidiau ni heddiw! Er enghraifft, teimlaf eu bod yn awgrymu profiad ysbrydol y mae angen ei feithrin yn yr oes faterol hon – y mae arnom angen dimensiwn sy’n meithrin persbectif gwâr ar fywyd.”

Nodwedd gref sy’n treiddio drwy rai o gerfluniau John yw brwydr natur i fyw, sef brwydr y mae’n teimlo ein bod yn parhau i’w hanwybyddu! Yn aml, ffurf fenywaidd drosiadol yw natur y delweddau hynny, sef corff benyw neu blanhigyn neu aderyn sydd â chyswllt â geni, gyda rhyw gynnwrf dinistriol yn ymddangos arnynt neu o’u cwmpas, fel ag a geir yn y cerflun Rhiannon.

Mae ymwybyddiaeth wleidyddol yn nodwedd arall o waith John. Gellir gweld hyn yn y cynnwrf sydd yn y cerflun Cofeb Tryweryn, yng ngwaedd y côr o bobl sy’n canu, gweiddi, protestio a herio dogma a gormes gwleidyddol yn ffyrnig. Mae’r dyhead i fyw a’r hiraeth am ryddid yn nodwedd gref o'r cerflun, ynghyd â grym gweledigaeth ysbrydol sydd yn codi o’r dŵr. Mae hyn yn  adlewyrchu gofidiau bywyd heddiw, ynghyd â’n dyhead ni am ryddid gwleidyddol a chrefyddol.

Yn wir, mae cysylltiad gwaelodol cryf â thraddodiad Cymru i’w weld yn rhedeg trwy’r arddangosfa, yn chwedlonol, hanesyddol a daearyddol - yn Cofeb Tryweryn, Lleu, Rhiannon ac ati.

“Teimlaf nid yn unig y dimensiwn ysbrydol ac architeipaidd, ond hefyd ddyhead ynof, fel Cymro, i fyw o safbwynt iaith a thraddodiad na allaf byth ei egluro. Y mae’r holl bethau hyn i’w gweld a’u teimlo yn y gweithiau a arddangosir yma.”

Bydd angen y fersiwn ddiweddaraf o Adobe Flash Player arnoch er mwyn gweld y fideo hwn. Gallwch lawrlwytho'r fersiwn ddiweddaraf yma.

Array

Copyright © Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales 2006

Last Updated: 11-10-2010