Tue, 17 Mar 09 17:15:00
21 Mawrth 2009 - 14 Awst 2009
Am hanner canrif bu’r ffotograffydd Percy Benzie Abery (1877–1948) yn cofnodi pob agwedd ar fywyd yn y siroedd o amgylch ei stiwdio yn Llanfair-ym-Muallt. Cynhyrchodd gorff helaeth o waith yn amrywio o bortreadau stiwdio, ffotograffau priodas, cardiau post a gwaith i’r wasg, i dirluniau a bywyd llonydd. Hefyd, cofnododd ffordd o fyw trwy gofnodi digwyddiadau a gweithgareddau trefol a gwledig ar draws Canolbarth Cymru a’r gororau yn ystod hanner cyntaf yr 20fed ganrif.
Mae’r arddangosfa hon yn cynnwys rhai o ffotograffau P B Abery o sir Faesyfed a rhai a gafodd gan ei gyfoeswyr. Mae’r delweddau yn nodweddiadol am eu prydferthwch yn ogystal â’u gwerth hanesyddol. Mae’r cyfuniad o weledigaeth Abery a chyfansoddiad gofalus y delweddau yn creu ansawdd arlunyddol bron yn y ffotograffau. Mae’n bosibl fod Abery wedi cael negyddion wedi eu priodoli i ffotograffwyr eraill megis Robert Newton Heyworth, felly yn aml mae’n anodd gwybod pa mor ddilys yw’r ffotograffau o fewn ei gasgliad. Er hynny, mae’n amlwg bod y delweddau yma’n bwysig iawn i Abery fel cofnod o fywyd yn ei ardal leol.
Detholiad yn unig allan o’r cannoedd o ddelweddau a negyddion yng nghasgliad Llyfrgell Genedlaethol Cymru yw’r ffotograffau a welir yma.
John Welson
Dolenni
NLW ar Flickr CommonsCasgliad P B Abery ar y Drych Digidol