Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

The National Library of Wales

What's On?

Cymdeithas Hanes Ceredigion 1909-2009

Mon, 16 Mar 09 16:37:00

9 Ebrill - 29 Mai 2009


Cefndir sefydlu Cymdeithas Hanes Ceredigion
Mae Cymdeithas Hanes Ceredigion yn dathlu ei chanmlwyddiant yn 2009. Ar y cychwyn Cymdeithas Hynafiaethwyr Sir Aberteifi oedd ei henw. Fe’i sefydlwyd yn ystod haf 1909 gan grŵp o hynafiaethwyr a gwladgarwyr lleol brwdfrydig. Hyd hynny, prin iawn fu’r ymgais i ymchwilio’n wyddonol i hanes y sir a’i ddehongli’n gywir, ac roedd y cyhoedd yn pryderu ynghylch y difrod a wnaed i weithiau hynafiaethol, yn enwedig mewn safleoedd eiconig fel Abaty Ystrad-fflur. Mor gynnar ag Ebrill 1901 bu’r Parchedig George Eyre Evans, gweinidog gyda’r Undodiaid yn Aberystwyth, yn trafod (wrth ddringo i gopa Pen Dinas) gyda L J M Bebb, Prifathro Coleg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan, pa mor ddymunol fyddai sefydlu ‘Cymdeithas Hanes Ceredigion’.

Ar 20 Mai 1901 cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus ‘cwbl gofiadwy’ yn Ystrad-fflur – abaty y cyfeiriai Evans ati fel ‘Westminster Cymru’ – a bu’r achlysur yn ysbardun iddo ddyblu ei ymdrechion i sefydlu cymdeithas hanes yn y sir. Gŵr hynaws, gwybodus ac egnïol oedd Evans ac, wrth gerdded ar hyd priffyrdd a mân ffyrdd y sir, byddai’n gwneud rhwbiadau o arysgrifau, yn archwilio bedyddfeini a chorffddelwau, ac yn holi pobl lleol yn fanwl. Yn ei lyfr Cardiganshire: A Personal Survey of Some of its Antiquities, Chapels, Churches, Fonts, Plate, and Registers (1903), gwaith a gefnogwyd gan 320 o danysgrifwyr, gofynnodd Evans y cwestiwn rhethregol: ‘Paham na ddylai Ceredigion fod y sir gyntaf i feddu ar ei Chymdeithas Hanes?’


Sut y sefydlwyd Cymdeithas Hanes Ceredigion
Cyd-dynnai George Eyre Evans yn dda ag offeiriaid Anglicanaidd a gweinidogion Ymneilltuol eraill. Ffurfiodd berthynas agos â’r Parchedig Athro E Tyrrell-Green, Athro Hebraeg a Diwinyddiaeth yn Ngholeg Llanbedr Pont Steffan, arbenigwr ar bensaernïaeth yr oesoedd canol, ac hefyd â’r Parchedig J Francis Lloyd, ficer Llanilar. Anfonwyd llythyrau at gefnogwyr tebygol i’r prosiect sirol a chynhaliwyd dau gyfarfod awyr-agored llwyddiannus iawn yn Ystrad-fflur ym Mehefin a Gorffennaf 1909. Yn ystod yr ail o’r rhain rhoes George Eyre Evans gynnig gerbron i sefydlu Cymdeithas Hynafiaethwyr Sir Aberteifi. Etholwyd Syr Edward Webley-Parry-Pryse o Gogerddan yn Llywydd, Tyrrell-Green yn Gadeirydd ar Bwyllgor Gwaith, a oedd yn cynnwys 20 aelod, ac yn Olygydd cyntaf ar Drafodion y Gymdeithas, ac etholwyd y Parchedig J Francis Lloyd yn Ysgrifennydd Mygedol cyntaf y Gymdeithas.


Nod a gwaith Cymdeithas Hanes Ceredigion
Prif nod y Gymdeithas oedd diogelu, cofnodi a hyrwyddo’r gwaith o astudio archaeoleg, hynafiaethau a hanes Ceredigion. Glynwyd wrth y nod hwnnw hyd heddiw, ond yn 2002 newidiwyd enw’r Gymdeithas i Cymdeithas Hanes Ceredigion. Dros y ganrif a aeth heibio mae’r Gymdeithas wedi cyhoeddi 15 cyfrol o’i Trafodion, 2 gyfrol o’i chyfres dair-cyfrol arfaethedig ar Hanes y Sir, a chynnal hefyd raglen flynyddol reolaidd o ddarlithiau ac ymweliadau â mannau hanesyddol. Mae wedi gweithio’n agos ag Amgueddfa Ceredigion, Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru. Wrth ddathlu camp ei sylfaenwyr, mae’r Gymdeithas yn edrych ymlaen at gyflawni ei chyfrifoldebau yn ystod y 100 mlynedd nesaf.

Copyright © Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales 2006

Last Updated: 11-10-2010