Thu, 13 Aug 09 15:59:00
Mae’r rhan fwyaf o bobl yn casglu pethau. Mae ein bywydau wedi eu llenwi â gwrthrychau, cywreinbethau, teganau a dyfeisiadau. Rydym yn llenwi ein cartrefi â phob math o gasgliadau, eitemau sy’n ein hatgoffa o’r gorffennol, ein teithiau, a’n teulu. Gellir darganfod casgliad o ffotograffau, llyfrau neu addurniadau yn y cartrefi mwyaf minimal hyd yn oed. Rydym yn hoffi gwneud y lle’n bersonol.
Mae Evans yn casglu ac yn arddangos gwrthrychau. Dyma’r hyn y mae wedi’i wneud am y rhan fwyaf o’i yrfa fel cynllunydd arddangosfeydd yn Amgueddfa Ceredigion, Aberystwyth. Mae cynllunio arddangosfeydd a gosod arteffactau hanesyddol ochr yn ochr mewn amgueddfa yn her ac yn ddiddorol.
‘Mae’r rhan fwyaf o fy ngyrfa wedi ymwneud â chynllunio arddangosfeydd a dehongli casgliadau lleol ar gyfer y cyhoedd. Dyma sydd wedi ysbrydoli fy ngwaith celf. Rwy’n creu gwaith mewn blychau ac yn cynhyrchu gwrthrychau sydd wedi eu selio ar hen greiriau go iawn. Gall hyn ddod o awydd personol i ddeall fy myd, i reoli gwagle, neu i wneud celf. Ond maent yn fwy na hyn. Mae rhai o’r gerfluniaeth yn hardd i edrych arnynt yn unig, ac yn hudol am eu prydferthwch elfennol’.
Mae Evans wedi byw mewn cymdeithas ddwyieithog trwy gydol ei oes. Mae’r Gymraeg a’r Saesneg yn rhan annatod o’i fywyd beunyddiol. Ond trwy ei waith, mae’n dewis peidio mynegi ei hun yn y naill iaith na'r llall fel y byddai awdur yn ei wneud. Serch hynny, mae’n nodi ei fod yn medru uniaethu â harddwch mynegiant y ddwy iaith a bod gan y ddwy eu modd o gyfathrebu meddyliau tringar a phreifat. Felly, yn lle defnyddio un iaith na’r llall, mae’n cyfuno ac yn gosod gwrthrychau mewn iaith weledol ac mae’n archwilio dull amgenach o gyfathrebu syniadau. Ategir at y storïau a'r atgofion sydd tu ôl i’r gwrthrychau prydferth a chwilfrydig gan ddetholiad o farddoniaeth gan Elin ap Hywel.
Ond yn ddiweddar bu’n casglu lleisiau, cyfweliadau ag academyddion, haneswyr, artistiaid ac ysgrifenwyr. Mae’r lleisiau hyn yn mynegi ac yn adrodd ymateb personol a chasgliadol i fywyd a marwolaeth, cymdeithas a gwaith, hanes a chelfyddyd, storïau ac atgofion. Dyma’i ymdrech gyntaf i gydweithredu’n uniongyrchol ym maes gwaith celf ac mae’n deillio’n uniongyrchol o’i feddyliau mewnol.
Rydym oll yn chwilio am ystyr ac mae byw bywyd yn rhan o’r chwilio hwnnw. Siwrnai gyson yw dehongli a, ph’un ai os yw hyn wrth eich bodd neu beidio, mae dealltwriaeth yn nod sy’n newid yn barhaus.