Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

The National Library of Wales

What's On?

David Tress - Ar Drywydd Goleuni Ysblennydd

Tue, 13 Oct 09 15:58:00

30 Hydref - 24 Rhagfyr 2009

Arddangosfa o baentiadau a lluniadau gan David Tress yw ‘Ar Drywydd Goleuni Ysblennydd’ / ‘Chasing Sublime Light’ sy’n canolbwyntio ar ei brofiad o deithio yng nghadernid tirweddau mynyddig gogledd Prydain. Mae’r gweithiau a welir yn yr arddangosfa yn adwaith uniongyrchol ac egnïol i’r tirweddau hyn fel yr ymddangosant heddiw, ond gorwedd gwreiddiau’r prosiect yn y siwrneiau a wnaed mwy na dwy ganrif yn ôl gan artistiaid arloesol a fu’n gyfrifol am ddarganfod tirluniau garw’r gogledd. Ymhlith yr artistiaid hyn oedd J M W Turner, Thomas Girtin a Paul Sandby, a theithient hwy er mwyn chwilio am dirweddau a fyddai’n chwyldroi peintio yn y cyfnod Rhamantaidd: tirweddau’r Dyrchafedig.

Bydd yr arddangosfa i'w gweld yn y Llyfrgell Genedlaethol o 30 Hydref - 24 Rhagfyr 2009. Ceir llyfr i gyd-fynd â’r arddangosfa sydd ar gael yn Siop y Llyfrgell.

Copyright © Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales 2006

Last Updated: 11-10-2010