Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

The National Library of Wales

What's On?

Alan Percy Walker: Edrychiad Manwl

Mon, 30 Nov 09 15:13:00

7 Rhagfyr - 12 Chwefror 2010

Dywedir yn aml mai Cerddoriaeth yw’r fwyaf haniaethol o’r holl Gelfyddydau. Gall Barddoniaeth gyda’i chysylltiadau cerddorol, ddod yn ail agos gan hawlio’r fedal arian. Gall y fedal efydd fynd i Lenyddiaeth; fodd bynnag, os bydd unrhyw awgrym o ddiffyg haniaethu mewn gwaith ysgrifenedig fe’i condemnir yn ddibetrus, a chaiff ei ddiarddel fel rhywbeth nad yw’n Llenyddiaeth.

Nid yw byd y Celfyddydau Gweledol fymryn yn llai trymlwythog o gyffelyb ragfarnau, ond yn ffodus mae ynddo fel rheol ddogmâu sy’n groes i’w gilydd – ac yn aml yn cael eu credu’n gryf – yn ymwneud â Chelfyddyd Gosodweithiau er enghraifft, ac ag unrhyw gategori o ymdrech artistig sy’n llithro’n rhwydd i bortmanto Celfyddyd Fodern. Mae ymdrech rhai artistiaid i ennill enwogrwydd drwy wreiddioldeb yn unig yn cael ei ystyried gan lawer yn anghenraid ar gyfer y teitl ‘Celfyddyd’, ond i’r rhai sy’n “Gwybod beth maent yn ei hoffi”, ni ddylai fod yn ddim syndod clywed ei bod yn annhebyg y bydd Celfyddyd Gynrychioliadol, er gwaethaf ei phoblogrwydd cyson, yn cael caniatâd i roi ei throed dros drothwy y mwyafrif o orielau noddedig o waith cyfoes, lle y gellir clywed eu cefnogwyr yn ymhonni – “…ond a yw hyn yn Gelfyddyd wirioneddol?” 

Câi argraffiadaeth a oedd wedi datblygu o ffurfiau a chynnwys traddodiadol peintio cynharach, ei hedmygu’n arbennig am ei bod yn apelio at deimladau pobl, at yr haniaethol; roedd yn fath newydd angerddol o beintio, lle roedd manylion testun yn cael eu hanwybyddu ar draul awyrgylch ddiffocws o niwlogrwydd, neu smotiau o liwiau pur i gyfleu awyrgylch. Roedd hyn o angenrheidrwydd yn diddymu pob manylyn er lles yr olwg gyffredinol ddominyddol - er hynny tybir yn gyffredinol bod sylwi ar fanylion yn cyfoethogi Celfyddyd, yn arbennig llenyddiaeth; ond ym maes peintio mae’r elfen wedi bod yn segur i'r raddau helaeth ers canrif neu fwy.  

Detholiad o waith topograffig yn bennaf, ac o Gymru gan fwyaf, yw’r arddangosfa hon. Fel yn achos croniclo mae’n rhoi cyfrif o’r hyn y sylwyd arno ar y pryd ac mae pwysigrwydd y ddau fater, Manylion ac Argraff, wedi eu troi o chwith; y manylion yn amlwg yw’r elfen sy’n dominyddu. Weithiau mae’r artist yn chwarae triciau gyda’r dychymyg a gyda’r persbectif, ond y manylion yw’r hyn sy’n cyfuno’r gwaith.

Meddai’r artist, “In Art, as in Life, acknowledgement of mere detail is often considered demeaning and enlarged egos are therefore inclined to dismiss it for fear of giving a ‘wrong’ impression. I have tried to produce a diligent account of the small things for, as in literature, it can set the mind and senses active on what is still important but often overlooked.

Detail is worthy – it may even have its own god, as suggested by Arundhati Roy.”

Copyright © Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales 2006

Last Updated: 11-10-2010