Mon, 14 Jun 10 09:42:00
19 Mehefin - 4 Medi 2010
Yn 1965, gwnaed penderfyniad dadleuol i foddi pentref gwledig Cwm Celyn a Chwm Tryweryn, ger Bala, er mwyn darparu dŵr i Ddinas Lerpwl. 45 mlynedd yn ddiweddarach, mae’r arddangosfa hon yn edrych yn ôl-syllol ar y cyfnod trychinebus hwnnw cyn boddi’r cwm, a hynny drwy lygaid un o arlunwyr mwyaf blaenllaw Cymru, Claudia Williams.
Ganwyd Claudia Williams yn Purley, Surrey yn 1933. Mynychodd Ysgol Gelf Chelsea a hithau ond yn un ar bymtheg oed. Yn 1954, priododd yr artist Gwyn Prichard ac ymgartrefodd y ddau yn Llangefni, Ynys Môn. Ers hynny, bu’n byw am gyfnod yn Llydaw cyn dychwelyd i Dinbych-y-Pysgod yn 2000.
Caiff Claudia Williams ei hadnabod fel arlunydd sy’n archwilio a chofnodi bywyd bob dydd ac mae’r cynefindra yn ei darluniadau yn rhoi cipolwg ingol ar fywyd trigolion Capel Celyn.
Yn ogystal â darluniadau Claudia Wililams, mae’r arddangosfa yn cynnwys ffotograffau dogfennol o gasgliad Geoff Charles a deunydd archifol o gasgliad y Llyfrgell.
I gyd-fynd â’r arddangosfa bydd y Llyfrgell Genedlaethol yn dangos awr o ffilmiau am foddi Tryweryn, 23 Mehefin yn y Drwm.
Caiff Claudia Williams ei chynrychioli gan Oriel Martin Tinney Gallery.