Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

The National Library of Wales

What's On?

Curwen: Celf, Geiriau a Cherddoriaeth mewn Print

Thu, 08 Jul 10 11:59:00

10 Gorffennaf - 11 Medi 2010
Y Parchedig John Curwen (1816-1880), un o weinidogion yr Eglwys Annibynnol, a sefydlodd Wasg Curwen yn 1863. Yn ystod y Chwyldro Diwydiannol roedd y pwyslais ar ymroddiad  personol i fyw yn sanctaidd ac ar iachawdwriaeth, a daeth yr Annibynnwyr, y Crynwyr a’r Undodwyr yn aristocratiaid newydd yn sgîl eu rôl fel cyflogwyr, dinasyddion gweithgar a chyfranwyr elusengar.

Yn y cyfnod hwn, roedd John Curwen yn ystyried canu fel ffordd o ddod â phobl at ei gilydd, ac o ganlyniad iddo ddigwydd cwrdd â Sarah Glover (1785-1867) mewn capel yn Norwich, daeth i ymddiddori yn y ffordd o ysgrifennu a darllen cerddoriaeth roedd hi newydd ei dyfeisio ac a adnabyddid fel y tonic sol-ffa. Roedd y tonic sol-ffa yn haws i’w ddysgu ac yn rhatach i’w atgynhyrchu mewn print na nodiant cerddorol confensiynol. Daeth y ddyfais hon yn boblogaidd yn fuan wrth i John Curwen symud i gapel yn Plaistow, Essex a sefydlu ei ysgol Sul ei hun lle’r arferai’r dechneg wrth ddysgu’r plant i ganu emynau.

Yn 1863 penderfynodd argraffu fersiynau o’r tonic sol-ffa ar gyfer eu dosbarthu a dyma oedd dechreuad Gwasg Curwen. Erbyn 1891, roedd tua 2, 500 000 o bobl ledled Prydain yn cael eu dysgu yn y ffordd hon a gwelwyd adfywiad nodedig mewn safonau a chanu corawl. Daeth y ddyfais yn boblogaidd ar fawr o dro ymhlith cynulleidfaoedd Cymru, a chafodd ei hyrwyddo gan unigolion megis  John Roberts (‘Ieuan Gwyllt’, 1822 - 1877) a Robert Griffiths (1824 - 1903), gan arwain at adfywiad eang mewn canu corawl yng Nghymru.

Daeth cysylltiad y Wasg gyda chelf yn llawer diweddarach pan etifeddwyd y busnes gan Harold a Kenneth, wyrion John Curwen. Yn ystod eu perchnogaeth hwy dechreuodd y Wasg arbrofi mwy gyda thechnegau newydd o argraffu lliw, a throi i gyfeiriad newydd o ddod â geiriau a darluniau at ei gilydd yn y 1920au gydag artistiaid megis Paul Nash (1889 - 1946) ac Edward Bawden (1903 - 1989). 

Ar ddiwedd yr 1950au y dechreuodd y cysylltiad gyda chelfyddyd ac artistiaid Cymreig, pan sefydlodd y Wasg Stiwdio Curwen i weithio gydag artistiaid a oedd yn ymddiddori yn y syniad o lunio printiau gwreiddiol a gweithio’n agos gyda Ceri Richards (1903 - 1971), Josef Herman (1911 - 2000) a John Piper (1903 - 1992). Roeddent i gyd yn cael eu denu gan yr ansawdd a’r feistrolaeth ar dechnegau lithograffig a ddatblygwyd gan y Wasg a’r Stiwdio. Mae’r cysylltiad gyda chelfyddyd Gymreig wedi parhau hyd heddiw gyda chynhyrchu cyfredol o waith gan artistiaid megis Kyffin Williams (1918 - 2006), Karel Lek (1929 - ) a Wilf Roberts (1941 - ). Er mwyn dathlu’r arddangosfa, mae’r Llyfrgell Genedlaethol wedi comisiynu Stiwdio Curwen i greu argraffiad cyfyngedig o brint gwaith gan y diweddar Kyffin Williams.

Heddiw, pan mae gan lawer o gartrefi eu cyfleusterau creu printiau eu hunain yn y tŷ ar ffurf chwistrell-argraffyddion, mae ethos Stiwdio Curwen wedi parhau yn ddigyfnewid. Maent yn dal at eu cred gref yng ngwerth a chyffro platiau, papur, inc a gweisg fel cyfrwng i greu delweddau gwreiddiol. Mae’r Stiwdio yn gorff unigryw mewn argraffu celfyddyd gain ac er gwaethaf ei henw da rhyngwladol nodedig mae’n parhau i gynnal perthynas agos â Chymru.

Copyright © Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales 2006

Last Updated: 11-10-2010