Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

The National Library of Wales

What's On?

Yemen: Charles & Patricia Aithie

Thu, 09 Sep 10 09:26:00

25 Medi 2010 - 2 Ebrilll 2011

Fe aned Patricia Aithie yng Nghaerdydd, ac mae’n ffotograffydd, awdur a darlithydd sydd â phrofiad o fwy na phum mlynedd ar hugain o fyw a theithio yn y dwyrain canol, y dwyrain pell a thu hwnt. Mae’n arbenigo mewn teithio, diwylliant a ffydd, ac wedi cyhoeddi sawl cyfrol fel awdur a ffotograffydd. Arddangoswyd ei ffotograffau a’i lluniau yn rhyngwladol, a bu’n gweithio’n aml gydag artistiaid o ddiwylliannau gwahanol, yn ogystal â rhoi llawer o ddarlithoedd, gan gynnwys cyrsiau ar Hanes Celf Byd Eang a Diwylliant yn yr Emiraethau Arabaidd Unedig. Mae’n Aelod o Urdd Ysgrifenwyr Teithio Prydain, wedi’i hethol yn gymrodor o’r Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol, ac yn gymrodor Cymrodoriaeth Winston Churchill.

Bydd yr arddangosfa hon yn un o gyfres o ffotograffau dogfen a gymrodd Patricia a’i gŵr Charles wrth ymweld ag Arabia gyda chymorth Cymrodoriaeth Winston Churchill a Chyngor Celfyddydau Cymru. Mae Patricia a Charles ill dau yn hysbys ym meysydd ysgrifennu ar deithio a ffotograffiaeth, ac yn meddu ar ymwybyddiaeth drylwyr o ddiwylliant Yemen, ei chelfyddyd, ei thirwedd a’i phobl. Bu i’r prosiect ddwyn ffrwyth yn 2001, pan gyhoeddwyd y gyfrol Yemen: Jewel of Arabia, a chyhoeddwyd argraffiad diwygiedig dan glawr meddal yn 2009. Mae’r ffotograffau hynny bellach yn rhan o’r casgliad cenedlaethol a gedwir yma yn y Llyfrgell.

Blog Llyfrgell Genedlaethol Cymru: Sgwrsio gyda Pat Aithie.

Copyright © Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales 2006

Last Updated: 11-10-2010