Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

The National Library of Wales

What's On?

Trysorau o'r Celloedd

Thu, 28 Jun 07 14:50:00

Nid gwaith hawdd yw dethol tua 40 o ddelweddau o blith yr 800,000 o ffotograffau sydd yn y Casgliad Cenedlaethol o Ffotograffau Cymreig. Er ei maint mae Cymru’n genedl llawn amrywiaeth gydag ymraniadau ieithyddol, daearyddol a diwylliannol. Mae’r casgliad yn adlewyrchu hyn ynghyd â’r ffactorau niferus sy’n cymell yr awydd i dynnu llun, boed yn wleidyddol, yn ariannol, i greu gwaith celf neu i ddwyn i gof ymdeimlad o le.
Mae’r arddangosfa hon wedi ei chrynhoi gyda’r bwriad o ddangos dyfnder a lled y casgliad. Mae hefyd yn dwyn ynghyd gweithiau gan nifer o ffotograffwyr mwyaf adnabyddus yr 20fed ganrif. Mae’r Casgliad Cenedlaethol o Ffotograffau Cymreig yn cynnwys gwaith gan bobl amlwg fel Henri Cartier-Bresson, Bill Brandt, Angus McBean, Alvin Langdon Coburn a Robert Frank. Mae enghreifftiau o waith pob un ohonynt yn cael eu dangos yma. Cynnwys yr arddangosfa yn ogystal ffotograffau gan ffotograffwyr llai adnabyddus gan gynnwys Ron Davies, Geoff Charles, David Gepp, Paul White, Jeremy Moore, P B Abery a Gwyn Martin.
Mae ffotograffwyr o Gymru wedi teithio dramor ers 1845, pan fentrodd y Parchedig Calvert Richard Jones i wledydd Môr y Canoldir gyda’i gamera pren swmpus. Wrth i’r 19eg ganrif fynd rhagddi dilynwyd ei esiampl gan feibion bonedd, yn saethu eu ffordd, weithiau’n llythrennol felly, drwy’r Ymerodraeth Brydeinig. Mae golygfeydd o Norwy, Sbaen, yr Eidal, India, Ffrainc a Yemen gan ffotograffwyr Cymreig mwy sidêt o’r 20fed ganrif yn dilyn y traddodiad hwn o ffotograffiaeth.
Nid mewn celloedd llychlyd y mae’r Casgliad Cenedlaethol o Ffotograffau Cymreig wedi ei gartrefu. Gall unrhyw un sy’n meddu ar docyn darllen dilys edrych a chwilio drwy’r trysorau hyn a llawer iawn mwy. Mae rhai o’r casgliadau ar gael ar ffurff ddigidol ar ein gwefan eisioes.

Copyright © Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales 2006

Last Updated: 11-10-2010