Wed, 23 Mar 11 16:05:00
16 Ebrill - 2 Gorffennaf 2011
Yn eu paentiadau, creodd y Swrealwyr Salvador Dali a Rene Magritte fydoedd rhyfeddol, cyffrous a difyrrus. Mae Jean-Claude Charbonel a John Welson hwythau wedi arddangos ledled y byd gyda’r Swrealwyr hyn am fwy na deng mlynedd ar hugain a chyd-gyflwyno arddangosfeydd o’u delweddau personol a thrawiadol hwy eu hunain. Mae eu darluniau’n portreadu golygfeydd sy’n llawn lliwiau llachar a siapiau y mae’r ddau artist wedi’u hamsugno o’r Swreal ac o’u tirweddau brodorol.
Daw’r ddau artist o Lydaw ac o Gymru, ond cyfarfuont â’i gilydd am y tro cyntaf yn 1978 yn y Camden Arts Centre, Llundain yn ystod agoriad arddangosfa Swrealaidd Ryngwladol lle'r oeddent ill dau yn cyfrannu eu gwaith. Ers yr adeg honno, maent wedi bod yn ffrindiau mynwesol ac wedi arddangos gyda’i gilydd mewn arddangosfeydd dilynol.
Mae Jean-Claude Charbonel yn byw ac yn creu paentiadau a ‘blychau celf’ mewn stiwdio yn Llydaw sy’n orlawn o wrthrychau a broc môr a ganfuwyd ar hap. Y tu ôl i’w stiwdio, mae coed a nant gyda’i hwyaid nwyfus yn ildio’u lle i dirwedd o feini hir a chylchoedd cerrig Mae Charbonel yn amsugno hanes a mythau ei fro gan greu ei drigolion ei hun a’i dirluniau mewnol trwy eu llunio o’r gwrthrychau a ganfu ar hap a’i gyfarfyddiadau siawns â datguddiadau gwrthodedig y gymdeithas gyfoes. Yn llawn hyfrydwch a hynawsedd, daw’r bodau hyn yn geidwaid y creigiau a’r clogwyni; a hwythau’n warchodwyr y nos ymlwybrant o gysgodion Myth Celtaidd i synfyfyrio uwchben moroedd lloer-olau.
Daw John Welson o anialdir gwyllt sir Faesyfed yng Nghymru, o genedlaethau lu o amaethwyr a fu’n trin y tir. Mae ei baentiadau yn adlewyrchiad o’r wlad - ei chadwyni o fryniau a dyffrynnoedd, y mythau a’r hanes sy’n gorwedd dan y bryniau grug. Mae goleuni a gwedd y bryniau â’u copaon crynion a magwyrydd y dyffrynnoedd yn creu rhyw rith o fwystfilod enfawr cysglyd.
Mae gan y ddau artist empathi â’r dirwedd y maent yn byw ynddi ac mae hyn yn gweithredu fel llwyfan i greu eu ‘tirwedd’ eu hunain, gan gymell yr arsyllwr i ddod yn ymwybodol o ‘realaeth gudd’. Tirweddau yw’r rhain sy’n gorwedd rhyw fymryn lleiaf o dan yr wyneb ac yn ysbrydoli’r sawl sy’n edrych i sylwi o’r newydd ar yr hyn sydd o’i gwmpas.
Sgwrs Oriel gan John Welson, Dydd Mercher 22 Mehefin 1:15 p.m.
Ymunwch â'n rhestr bostio yn rhad ac am ddim i dderbyn gwybodaeth am ein rhaglen arddangosfeydd, ebostiwch post@llgc.org.uk neu cofrestrwch ar-lein i dderbyn ein egylchlythyr rhad ac am ddim.