Wed, 06 Apr 11 08:56:00
7 Mai - 20 Awst 2011
Mae’r arddangosfa hon yn dathlu pen-blwydd Clive Hicks-Jenkins, a ddisgrifiwyd gan Robert Macdonald fel ‘un o’r arlunwyr ffigurol mwyaf grymus yng Nghymru’, yn drigain oed.
Arferai Clive Hicks-Jenkins, a aned yng Nghasnewydd yn 1951, weithio fel coreograffydd a chyfarwyddwr theatr ond er yr 1990au y mae wedi ymroi’n llwyr i beintio. Erbyn hyn cedwir gwaith o’i eiddo yn holl brif gasgliadau cyhoeddus Cymru, mae’n aelod o’r Academi Frenhinol Gymreig ac yn Gymrawd Anrhydeddus o Brifysgol Aberystwyth.
Mae’r arddangosfa hon yn cyflwyno llyfrau’r arlunydd a gweithiau sy’n adlewyrchu ei ddiddordeb mewn ymdeimlad o le ac mewn bywydau llonydd theatrig o eitemau cyfarwydd. Gellir hefyd ddarluniau wedi’u hysbrydoli gan y Fari lwyd a pheintiadau dan y teitl ‘Temtasiynau Unigedd’. Mae’r arddangosfa hefyd yn cyflwyno’r defnydd mae’r artist yn ei wneud o fodelau ar ffurf pypedau yn ogystal a’i waith mwyaf diweddar sy’n ymwneud a’i waith mwyaf diweddar sy’n ymwneud â storïau am wyrthiau.
Gallwch ddarllen neu glywed ymateb beirdd i’r peintiadau wrth fynd o amgylch yr oriel neu yn y gyfrol The Book of Ystwyth sy’n cyd-fynd â’r arddangosfa.
Sgwrs Oriel gan Clive Hicks-Jenkins, Dydd Llun 25 Gorffennaf 1:15 p.m.
Agoriad Swyddogol Arddangosfa Clive-Hicks Jenkins
Ymunwch â'n rhestr bostio yn rhad ac am ddim i dderbyn gwybodaeth am ein rhaglen arddangosfeydd, ebostiwch post@llgc.org.uk neu cofrestrwch ar-lein i dderbyn ein egylchlythyr rhad ac am ddim.