Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

The National Library of Wales

What's On?

Casgliad Celf

Mon, 16 Jul 07 10:02:00

Detholiad yw’r arddangosfa hon o’r gweithiau celf a ddaeth i feddiant y Llyfrgell Genedlaethol yn ystod y 4 blynedd diwethaf. Bob blwyddyn ychwanegir cannoedd o weithiau celf at y casgliad, naill ai trwy roddion, pryniannau neu gymynroddion. Mae’r casgliad yn amlygu dwy agwedd ar gasgliadau 2004-2007: pryniant a chymynrodd Syr Kyffin Williams.
Mae prynu gweithiau celf yn golygu amrywiaeth o ymdriniaethau a chysylltiadau â phobl. Prynwyd gweithiau gan Alistair Crawford, Peter Arnold, Karel Lek a Luke Shepherd yn uniongyrchol oddi wrth yr artistiaid eu hunain. Mae hyn yn sicrhau bod cyswllt cryf rhwng yr artist unigol â’r Llyfrgell sy’n aml yn dod â manteision ychwanegol i bawb.
Gwelwyd a phrynwyd rhai lluniau mewn arddangosfeydd, fel yn achos Gareth Parry, Keith Bowen, a Dionne Sievewright. Yma, cafodd y gwaith ei ddewis ac yna’i brynu trwy’r oriel fasnachol.
Prynwyd cerfluniau Michael Rizzello, a gomisiynwyd ar gyfer Cofeb Lloyd George yng Nghaerdydd, oddi wrth ei ferch a fu’n gweithio fel deliwr ar ei ran am flynyddoedd lawer. Maent yn cynrychioli 2 ran o’r comisiwn, y maquette plastr a’r pen maint llawn ar gyfer y gofgolofn bortreadol.
Prynwyd portread cywrain a sensitif Ceri Richards o’i dad oddi wrth y teulu yn dilyn marwolaeth chwaer Ceri, Esther. Roedd y darlun yn rhodd gan yr artist i Esther a bu’n hongian yn yr hen gartref teuluol yn Nynfant am ymron i hanner canrif. 
Mewn gwrthgyferbyniad, bu’r Homage to Dylan Thomas mewn casgliadau preifat oddi ar 1954 ac fe’i prynwyd mewn ocsiwn yn Bath. Pryniant arall mewn ocsiwn oedd pen cerfiedig afieithus John Cowper Powys, gan Oloff de Wett, y tro hwn mewn ystafell arwerthu yn Rhydychen.
Ceir yma un enghraifft o bryniant oddi wrth gasglwr preifat. Bu’r darlun dyfrlliw mawr o Branwen gan Margaret Jones mewn 3 chasgliad preifat cyn iddo gael ei brynu ar gyfer y Llyfrgell.
Cymynrodd Syr Kyffin Williams i Lyfrgell Genedlaethol Cymru yw’r rhodd unigol fwyaf o weithiau celf i’r Llyfrgell ers y casgliad hael a grynhowyd gan y Llywydd cyntaf, Syr John Williams. Mae’r ychydig weithiau gan Syr Kyffin a arddangosir yma yn rhagflas bychan yn unig o’r gwaddol enfawr ac amrywiol a dderbyniodd y Llyfrgell tua diwedd 2006. Roedd ei barch at y Llyfrgell fel sefydliad cenedlaethol, a’i gariad tuag at Gymru, yn amlwg yn ei rodd haelionus i’r genedl.

Copyright © Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales 2006

Last Updated: 11-10-2010