Sat, 20 Oct 07 09:30:00
Gwasg Gregynog yw gwasg breifat bwysicaf Cymru. Gwendoline a Margaret Davies, wyresau'r miliwnydd David Davies, Llandinam, a sefydlodd y wasg yn eu cartref, Plas Gregynog ger Y Drenewydd. Etifeddodd y chwiorydd, ynghyd â’u brawd, yr Arglwydd Davies, gyfoeth mawr yn dilyn llwyddiannau eu taid mewn pyllau glo, porthladdoedd a rheilffyrdd.
Yn ei chyfnod cynharaf rhwng 1923 a 1940, cyhoeddodd y wasg 42 o lyfrau hardd cyn dod i ben ar ddechrau’r Ail Ryfel Byd. Dyma deulu â chydwybod gymdeithasol. Buont yn hael iawn tuag at sawl sefydliad Cymreig gan gynnwys y Llyfrgell Genedlaethol. Wedi marwolaeth Gwendoline Davies yn 1951, cyflwynodd Margaret Davies y rhan fwyaf o offer y wasg i’r Llyfrgell yn 1954. Roedd hyn yn cynnwys y ‘monotype caster’, y gweisg argraffu, y blociau pren ysgythredig a nifer helaeth o lyfrau’r wasg.
Ailsefydlwyd y wasg yn 1978 o dan ei theitl Cymraeg, Gwasg Gregynog. Mae’r wasg yn parhau i ddefnyddio dulliau traddodiadol o argraffu er mwyn sicrhau bod eu llyfrau ymysg y goreuon o blith cynnyrch gweisg preifat cyfoes.
Casgliad Gwasg Gregynog yw un o drysorau’r Llyfrgell ac mae’r llyfrau’n enwog am eu rhwymiadau cain a’u haddurniadau gwerthfawr.