Sat, 12 Jan 08 09:30:00
Treuliodd Anthony Stokes 5 mlynedd yn casglu delweddau o Gymoedd y De, ei hoff fro o holl fröydd y byd. Dyma lygad arlunydd a chlust gohebydd yn uno i greu gweledigaeth annisgwyl o’n cynefin bob dydd. Bydd y delweddau trawiadol yma’n agor ein llygaid ni i gyd i’r hud a lledrith sydd dan wyneb ein profiad beunyddiol.
Aeth y Cymoedd yn angof i lawer, ond mae’r cyfoeth lliwiau yn ei luniau yn siwr o ddihuno’r cof. Os caiff rhai o’r datblygwyr eu ffordd, bydd y fro yma’n diflannu am byth cyn bo hir. Ond pan edrychwn ni ar luniau yn yr arddangosfa hon, fe welwn ni olion y dirwedd oedd yn aelwyd y Chwyldro Diwydiannol yng Nghymru.
Mae’r delweddau yma’n creu rhywbeth o ysbryd clasurol y Cymoedd, wrth reswm. Ond dyma fynegiant hefyd o’r nerth sydd yng nghalonnau pobl, o’u hewyllys i roi eu stamp ar eu cynefin, a rhoi enw unigryw i’w cilfach nhw o wyneb y Ddaear. Mae lluniau Anthony Stokes yn llawn direidi chwareus, a’r un pryd yn disgleirio â’i gariad tuag at y fro i gyd. Yn ei weledigaeth ef, mae’r cyfarwydd wedi dod yn arbennig, a’r cynefin yn unigryw.
Harddwch bro, medd rhai, yw llawenydd yr holl ddaear. Bydd lluniau Anthony Stokes yn dysgu inni weld yr harddwch sydd o fewn ein cyrraedd, yn y lleoedd mwyaf annisgwyl.
Amgueddfa ac Oriel Cwm Cynon drefnodd 'The Valleys', gan Anthony Stokes. Bydd yr arddangosfa ffotograffig yma’n mynd ar daith gyda chymorth gan Gyngor Celfyddydau Cymru.