Sat, 26 Jan 08 09:30:00
Arddangosfa o lyfrau artistiaid cyfoes, gan gynnwys artistiaid o’r UDA ac Awstralia.
Gwneir llyfrau artistiaid yn unigol, ac fel arfer byddant yn unigryw neu mewn cyfresi byr. Mae iddynt elfen gartref ond maent wedi eu gorffen yn rhagorol ac yn aml wedi eu llunio’n broffesiynol. Mae’r llyfrau yn yr arddangosfa hon yn cynnwys gwneud printiau, darlunio a phwytho ac maent yn amrywio yn eu ffurf - rhai wedi eu rhwymo, rhai fel consertina, rhai’n plygu at allan a rhai ar y wal. Mae artistiaid hefyd yn dangos elfennau o arferion eraill - peintiadau, darluniau a phrintiau.
‘Mae gwneud lluniau yn weithgaredd hynod o foddhaol a chymhellol. Mae’r syniad yn esblygu, mae’n llifo i’r ymwybyddiaeth a thros amser mae’n dechrau ffurfio yn y meddwl. Yna daw’r foment arbennig - y chwarae gyda darnau o bapur i weld pa ffurf sydd fwyaf addas yn emosiynol ac yn weledol. I mi mae llyfr yn ddistylliad o brofiad gydag elfen o gofnodi rhywbeth na fydd yn bodoli nac yn digwydd byth eto.’ Noelle Griffiths