Wed, 13 Feb 08 09:30:00
Mae arddangosfa Breuddwydwyr Doeth a Ffôl yn canolbwyntio ar gyfraniad y Cymry a aeth i ymladd yn Sbaen. Mae'n cofnodi rhai o’u hanesion, ymgyrchoedd codi arian yng Nghymru, a’r lloches a gynigwyd gan Gymry i blant amddifad. Bydd hefyd yn trafod pam fod y gwrthdaro, ac ymateb y Cymry iddo, yn rhan bwysig o’n hanes.