Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

The National Library of Wales

What's On?

'O Affrica i Wlad yr Iâ' gan John Rogers

Sat, 05 Apr 08 09:30:00

Siwrne arlunydd trwy ofod ac amser yw O Affrica i Wlad yr Iâ. Dyma daith ymchwil ar hyd arfordir yr Iwerydd mewn ymgais i ganfod prydferthwch mewn natur a diffeithwch. Mae hefyd yn astudiaeth o’r ffordd mae pobl yn ymdrin â’u tirwedd trwy arferion, pensaernïaeth werinol, iaith a gwaith, a’r ffordd maent wedi eu cysylltu tu hwnt i’r ffiniau cenedlaethol sy’n bodoli. Yn fwy na dim, mae’n ymgais am harddwch trwy’r ddisgyblaeth o beintio.

Cynhyrchwyd y gwaith yn y cyfnod rhwng 1983 a’r presennol, ac maent yn cynrychioli ffyrdd arfordirol trwy ardaloedd a gwledydd Celtaidd gan gynnwys Moroco, Galisia, Llydaw, Cernyw, Cymru, Iwerddon, Ynysoedd Heledd a Gwlad yr Iâ.

I ddechrau ei Fordaith Geltaidd, hwyliodd John Rogers ar liwt ei hun ar gwch bach heb do, o’i gartref yn Sir Benfro i’r Iwerddon fel aeth llawer trwy’r canrifoedd o’i flaen i ysbeilio, i fasnachu neu i ymgartrefu ar hyd y glannau. Ar ôl hynny, daeth ei deithiau’n fwy egsotig ac anturiaethus ac mae’r peintiadau rhagorol yn adrodd hanes ei daith trwy diroedd agos a phell.

Mae’r arddangosfa hon yn ymgais nid yn unig i chwilio am gymeriad sylfaenol y lleoliadau a ymwelodd John Rogers â nhw, ond hefyd yr ysbryd sylweddol llai hanfodol sy’n selio eu hunaniaeth fel gwlad Geltaidd.

“As a Welsh landscape artist I now have a richer understanding of who we are and where we live.” John Rogers

Gyda chysylltiadau teuluol yng Nghymru, Iwerddon a Chernyw, ganwyd John Rogers yng Nghaerdydd yn 1939. Mynychodd Goleg Celf Caerdydd gan astudio oddi tan John Roberts, David Tinker a Phil Jennings. Gweithiodd ym myd y theatr, teledu a’r syrcas yn ogystal â fel cynllunydd tai, cyn dechrau peintio’n llawn amser gan agor galeri yn Nhŷ Ddewi, Sir Benfro yn 1972.

Copyright © Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales 2006

Last Updated: 11-10-2010