Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

The National Library of Wales

What's On?

Gwobr Portreadau Cymru 2

Sat, 19 Apr 08 09:30:00


Mae Gwobr Portreadau Cymru yn arddangosfa newydd a gynhelir bob dwy flynedd i hyrwyddo’r gelfyddyd o lunio portreadau yng Nghymru, gyda’r nod o annog yr holl artistiaid i ddatblygu’r thema yma yn eu gwaith. Trefnir yr arddangosfa gan Wasanaeth Celfyddydau Sir Ddinbych (Cyngor Sir Ddinbych) ac mae’n elwa o bartneriaeth rhwng Castell Bodelwyddan, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, Neuadd Dewi Sant, Caerdydd ac Amgueddfa ac Oriel Gelf Williamson, Penbedw.

Croesawyd gwaith gan artistiaid o unrhyw oedran yn byw, gweithio neu wedi’u geni yng Nghymru, neu gan unrhyw artist sydd wedi llunio portread o Gymro neu Gymraes. Anfonwyd paentiadau a darluniadau gwreiddiol i’r gystadleuaeth, gyda’r ffurf ddynol flaenaf yn y gwaith. Mae’r beirniaid wedi dethol 52 o bortreadau i’r arddangosfa o’r 200 a rhagor a anfonwyd i’r gystadlleuaeth.


Gwobrau

Gwobr Gyntaf – Self Portrait, Alan Salisbury
Ail Wobr – Self Portrait, Corrie Chiswell
Trydedd Wobr – Neil McNally, Dido Hallett


Dyddiadau’r arddangosfa

Amgueddfa ac Oriel Gelf Williamson, Penbedw, 2 Mawrth – 13 Ebrill 2008 Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, 19 Ebrill – 31 Mai 2008 Castell Bodelwyddan, Sir Ddinbych, 17 Mehefin – 19 Gorffennaf 2008 Neuadd Dewi Sant, Caerdydd, 14 Medi – 25 Hydref 2008 Clwyd Theatr Cymru, Yr Wyddgrug, 1 Tachwedd - 6 Rhagfyr 2008

Copyright © Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales 2006

Last Updated: 11-10-2010