Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Gwe, 04 Ebr 08 10:04:00

O’r Affrig i Wlad yr Iâ yw enw’r arddangosfa yn seiliedig ar daith yr artist John Rogers ar hyd arfordir yr Iwerydd. Mae’r lluniau olew hardd yn cofnodi bywyd gwyllt a phobl Moroco, Galisia, Llydaw, Cernyw, Cymru, Iwerddon, Ynysoedd Heledd hyd at Wlad yr Iâ - nifer ohonynt yn gymunedau bu’n rhan o briffyrdd hwylio’r byd Celtaidd. Agorwyd yr arddangosfa ar 5 Ebrill 2008 yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, un o brif ganolfannau’r byd Celtaidd a sefydliad sydd ag iddi gasgliad digymar o lawysgrifau a llyfrau am y byd hwnnw.
Cynhyrchwyd y lluniau o 1983 hyd y presennol ac maent yn astudiaeth o berthynas pobl â’u cynefin a’u tirwedd, eu pensaernïaeth frodorol, iaith a gwaith a’r dolenni sydd rhwng y gwahanol bobloedd ar draws ffiniau cenedlaethol.
I ddechrau ei fordaith Geltaidd hwyliodd John Rogers mewn cwch agored fechan ar ben ei hun o’i gartref yn Sir Benfro i’r Iwerddon yn ôl hwyl ein cyndadau dros filoedd o flynyddoedd. O hynny ymlaen, aeth ei deithiau yn fwyfwy egsotig ac anturus ac mae ei luniau trawiadol yn adrodd storiâu gwledydd pell ac agos. Yn wreiddiol o Gaerdydd ond bellach wedi ymgartrefu yn Nyddewi, atgoffir John yn fynych o ganolbwynt y ddinas fechan honno fel canolfan rhyngwladol. Yn ystod Oes y Seintiau, roedd Tyddewi yn un o'r canolfannau teithio a chenhadu ar draws y byd Celtaidd, dinas fechan ganolog ar hyd y traffyrdd morol, nid pentref bychan ar ben pella’r tir.
Yn ystod ei deithiau ym Moroco, bu John yn rhan o gwffas rhwng camelod a hiena a daliwyd ef yn garcharor, a tra yn y Picas de Europas yn Sbaen bu’n cerdded ymysg bleiddiaid, eirth a baeddod.
Yn fwy na dim, mae’r arddangosfa hardd hon o luniau olew yn daith i chwilio am gymeriad sylfaenol pobl a llefydd a’r hanfod amheuthun hwnnw sy'n arwain pobl i alw eu hunain yn Geltiaid. Mae’r arddangosfa’n cyd-fynd â llyfr urddasol o’r un enw a gyhoeddir gan Wasg Gomer o Landysul.
O’r Affrig i Wlad yr Iâ – John Rogers
Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth
5 Ebrill - 31 Mai 2008
Am wybodaeth bellach a delweddau: