Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

The National Library of Wales

What's On?
Cefnogwch Ni

Cefnogwch Ni

Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Rhowch nawr!

Ystafell Ddarllen y Gogledd - Adnewyddu!

Gwe, 25 Ebr 08 11:47:00

 


Yn sgil gorffen y datblygiad ar Ystafell Ddarllen y De yn Hydref 2004, aethpwyd ati i baratoi cynlluniau i foderneiddio Ystafell Ddarllen y Gogledd i ateb anghenion cynyddol ein darllenwyr. Yn Ystafell Ddarllen y Gogledd gall darllenwyr fynd at ddeunydd printiedig fel llyfrau, cylchgronau a phapurau newydd gwreiddiol, ac nid oes fawr o newid wedi bod ar yr ystafell ddarllen hon ers iddi agor yn 1916.


 


Mark Mainwaring a Fred Farrow o LlGC yn archwilio'r cynlluniau Mae’r cynlluniau newydd ar gyfer yr ystafell ddarllen yn cynnwys creu ardal WiFi, mwy o lefydd ar gyfer astudio preifat gyda gliniaduron, a chyflwyno llefydd i grwpiau astudio a myfyrio ar gasgliadau’r Llyfrgell heb amharu ar eraill. Bydd yr adnewyddu hefyd yn cynnwys Man Cysurus i Ddarllenwyr – sef lleoliad i ddarllenwyr ymchwilio mewn amgylchedd sydd â phwyslais ar fod yn gysurus.


 


Gobeithia’r Llyfrgell gwblhau’r gwaith erbyn diwedd 2008.


 


Yn ôl Mark Mainwaring, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol ‘Ni fydd yr adnewyddu yn effeithio ar y gwasanaethau i ddarllenwyr. Yn ystod yr adeiladu byddwn yn symud y darllenwyr i Oriel y Prif Gyntedd gerllaw, ond bydd popeth yn rhedeg yn ôl yr arfer. Rydym yn edrych ymlaen at greu amgylchedd dysgu ac ymchwilio cyffrous gan ddiweddaru’r cyfleusterau a’r manteision y gallwn eu cynnig i’n darllenwyr.’


 


Mae’r Llyfrgell yn ymddiheuro am unrhyw anhawsterau a achosi’r yn ystod y cyfnod adeiladu, ond yn ffyddiog bod y datblygiad yn dangos ein ymroddiad i wella cyfleusterau ac adnoddau sydd ar gael i ddarllenwyr yn ystod eu hymweliad â Llyfrgell Genedlaethol Cymru.


 


 


Am Wybodaeth Bellach:


 


Medi Jones, Swyddog Hyrwyddo LlGC: 01970 632 534  lmj@llgc.org.uk

Copyright © Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales 2006

Diweddarwyd: 22-10-2012