Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Maw, 29 Ebr 08 10:03:00

Mae Gwyn Jenkins yn Gyfarwyddwr Gwasanaethau Casgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac yn arbenigwr ar Huw T Edwards. Cyhoeddwyd Prif Weinidog Answyddogol Cymru, cofiant Huw T Edwards (Gwasg y Lolfa, 2007) gan Gwyn ac mae’n adrodd hanes gyrfa'r arweinydd undeb dylanwadol a’r gwladgarwr o’r ganrif ddiwethaf. Detholwyd y llyfr i restr hir cystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn yr Academi eleni.
Ychydig o addysg ffurfiol dderbyniodd Huw T Edwards, ond fe'i magwyd ar aelwyd ddiwylliedig a chrefyddol. Yn 1907, ac yntau'n 14 oed, dilynodd ei dad i weithio yn chwarel Penmaen-mawr. Ar ôl marwolaeth ei fam yn 1910 rhedodd i ffwrdd i'r de i weithio ym mhyllau glo Cwm Rhondda ac roedd yn Nhonypandy yn ystod streic 1911. Cafodd ei niweidio'n ddrwg yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, ond dychwelodd i weithio yng nglofeydd a chwareli gogledd Cymru lle'r aeth ati i drefnu canghennau o'r 'Transport and General workers union' a'r Blaid Lafur. Fe'i etholwyd yn aelod o gyngor trefol Penmaen-mawr a bu'n gadeirydd arno.
Daeth yn ffigwr pwysig a dylanwadol ym mywyd cyhoeddus Cymru o gyfnod llywodraeth Attlee ymlaen. Fe'i ddewiswyd yn gadeirydd cyntaf Cyngor Ymgynghorol Cymru yn 1949 pan gyhoeddodd adroddiadau pwysig ynghylch datganoli a diboblogi yn y Gymru wledig. Ymddiswyddodd o'r Cyngor yn 1958 fel protest yn erbyn methiant llywodraeth Macmillan i fabwysiadu argymhellion y Cyngor ynglŷn â phenodiad Ysgrifennydd Gwladol i Gymru a newidiadau gweinyddol eraill. Bu hefyd yn gadeirydd Bwrdd Croeso Cymru am 15 mlynedd, ac yn aelod o fwrdd cyfarwyddwyr Cyngor Cenedlaethol Darlledu y B.B.C, Gosedd y Beirdd ac o gyngor yr Eisteddfod. Ymddiddorai mewn barddoniaeth a rhyddiaith. Cyhoeddodd ddwy gyfrol o hunangofiant Dros y tresi (1956) a Troi'r drol (1963).
Roedd yn Sosialydd pybyr ac yn aelod o'r Blaid Lafur ar hyd ei oes tan mis Medi 1959 pan ymunodd â Phlaid Cymru, ond dychwelodd i'w hen blaid yn 1965. Bu'n llywydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg a cheisiwyd droeon ei berswadio i sefyll fel ymgeisydd seneddol ar ran y Blaid Lafur, ond gwrthod a wnaeth yn ddi-ffael.
Bu farw ar 9 Tachwedd 1970 yn ysbyty Abergele. Mae ei bapurau ar gadw yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth. Yn eu plith mae llythyrau oddi wrth Gweinidogion Cabinet Llafur fel Aneurin Bevan, Ernest Bevin a James Griffiths ac oddi wrth arweinyddion amlwg Plaid Cymru, Gwynfor Evans, J E Jones a Dr R Tudur Jones.
Cyflwyniad Awr Ginio
7 Mai 2008, 1.15pm
Huw T Edwards: 'Prif Weinidog Answyddogol Cymru' gan Gwyn Jenkins
Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth
Cyflwyniad yn y Gymraeg gyda chyfieithu ar y pryd i’r saesneg
Dolenni:
Gwybodaeth Bellach
Medi Jones, Swyddfa’r Wasg LlGC: 01970 632 534 lmj@llgc.org.uk