Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

The National Library of Wales

What's On?
Cefnogwch Ni

Cefnogwch Ni

Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Rhowch nawr!

System Data Digidol yr Arolwg Ordnans yn mynd yn fyw yn y Llyfrgell Genedlaethol

Mer, 09 Gor 08 10:27:00

 


Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn gartref i dros filiwn o fapiau, sydd o ddiddordeb mawr i academyddion, cyfreithwyr a haneswyr lleol a theulu.


 


‘Bydd y system newydd yn fuddiol iawn i’r Llyfrgell, ac rydym yn hapus iawn i groesawu’r adnodd rhagorol yma i’r casgliad’. Meddai Andrew Green, Llyfrgellydd, Llyfrgell Genedaethol Cymru.


 


Mae gan Llyfrgell Genedlaethol Cymru eisioes archif cynhwysfawr o fapiau Arolwg Ordnans yn dyddio’n ôl dros ddwy ganrif; yn wreiddiol derbyniwyd hwy ar bapur ac yna ar feicroffilm, ac ers 1998 derbynir hwy ar ffurf ddigidol. Hyd at 2005, caniatawyd i’r cyhoedd weld data digidol mapiau Ordnance Survey Land-Line® at bwrpas ymchwil preifat nad yw yn fasnachol yn unig, ar beiriannau annibynnol ym mhob Llyfrgell Adnau Cyfreithiol. O 2006, derbyniwyd Haen Topograffig OS MasterMap®, a ddiweddarir gyda chiplun newydd bob blwyddyn. Gellir ymchwilio a chymharu’r cipluniau blynyddol rhwng 1998 a 2007 drwy’r syllwr.


 


Mae OS MasterMap® yn cynnig gwelliant yn yr haenau o wybodaeth, gan ganiatáu mwy o fanylder wrth gofnodi newidiadau yn y tirlun dros amser.


 


Ceir rhagor o wybodaeth am y Syllwr ar y gwefannau isod:


 

 


 


Nodiadau ar gyfer Golygyddion


 

  • Mae chwe Llyfrgell Adnau Cyfreithiol yn y Deyrnas Unedig ac Iwerddon; Llyfrgell y Bodley, Rhydychen; y Llyfrgell Brydeinig, Llundain; Llyfrgell Prifysgol Caergrawnt; Llyfrgell Genedaethol yr Alban, Caeredin; Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth a Choleg y Drindod, Dulyn.
  • Mae gan y Llyfrgelloedd Adnau Cyfreithiol yn unol â themau Deddf Llyfrgelloedd Adnau Cyfreithiol 2003 yr hawl i ofyn am gopi o’r holl eitemau printiedig a gyhoeddir yn y Deyrnas Unedig ac yng Ngweriniaeth Iwerddon drwy ddeddfwriaeth gilyddol. Mae’r Ddeddf yn parhau â gofynion elfennol ar gyfer cyhoeddiadau print a sefydlwyd gan Ddeddf Hawlfraint 1911, Adran 15. Trwy’r ddeddfwriaeth hon, ynghyd â phryniadau a rhoddion, mae’r Llyfrgelloedd wedi adeiladu casgliadau cynhwysfawr, gan gynnwys mapio Arolwg Ordnans.
  • Mae Syllwr map newydd yr Arolwg Ordnans a ddatblygwyd gan Dotted Eyes yn caniatáu mynediad diogel i weinyddwr canolog, gyda mynediad wedi ei reoli drwy ddilysrwydd i Syllwr ym mhob Llyfrgell.
  • Mae’r allbrintiau maint A4 ar gyfer ymchwil preifat nad yw yn fasnachol yn cael eu caniatáu gan yr eithriadau a nodwyd yn y Ddeddf Hawlfraint. Nid yw’r Syllwr Llyfrgelloedd yn driprwyo ar gyfer gwasanaethau masnachol partneriaid Arolwg Ordnans, ac mae’r Llyfrgelloedd yn codi tâl am gost yr allbrintiau.

 


 


Gwybodaeth Bellach


 


Siôn Jobbins, Swyddfa’r Wasg LlGC: 01970 632 902 sion.jobbins@llgc.org.uk


 


 


 

Copyright © Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales 2006

Diweddarwyd: 22-10-2012