Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

The National Library of Wales

What's On?
Cefnogwch Ni

Cefnogwch Ni

Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Rhowch nawr!

Gŵyl Lens - Cyhoeddi Siaradwyr

Mer, 10 Med 08 12:54:00

 


Cynhelir Gŵyl Lens - gŵyl dogfennu Cymru â’r Camera - yn y Llyfrgell Genedlaethol am y bedwaredd flwyddyn yn olynol, ar 1 Tachwedd. Mae’r ŵyl yn amlygu casgliad helaeth y Llyfrgell, ac yn dathlu gwaith pedwar ffotograffydd cyfoes sydd yn gweithio yng Nghymru.


 


Eleni, yng ngŵyl LENS, bydd rhai o ffotograffwyr enwocaf a mwyaf diddorol Cymru yn rhoi cyflwyniadau darluniadol ar y thema ‘Cynefin’.


 


 


Mae siaradwyr eleni yn cynnwys:


 


Paul Cabuts - Ffotograffydd a myfyriwr ymchwil yng Nghanolfan Ymchwil Ffotograffig Ewropeaidd yn Ysgol Gelf Casnewydd fydd yn edrych ar bersbectif tri ffotograffydd gwahanol o’r 1950au: W Eugene Smith, Robert Frank a Geoff Charles.


 


Haydn Denman - Ffotograffydd annibynnol, dyn camera proffesiynol ac enillydd gwobr BAFTA sydd wedi teithio'n helaeth yn tynnu lluniau o bobl liwgar a golygfeydd ledled y byd.


 


Robert Haines - Bydd yn trafod ei waith Once upon a time in Wales, casgliad o luniau yn cofnodi cyfnod o anghydfod wrth i’w gymuned enedigol, Heolgerrig, Merthyr Tydfil, gael ei ailddatblygu ym 1971-2. 


 


Jeremy Moore -  Ffotograffydd sydd bellach wedi ymsefydlu yng nghanolbarth Cymru ac yn arbenigo yn nhirwedd Cymru. Bydd Jeremy yn trafod ei brosiect diweddaraf Rhwng y ddaear ar nefoedd sef archwiliad o dirwedd naturiol a ddiwydiannol Blaenau Ffestiniog.


 


 


Mae trefnwyr yr ŵyl yn ei gweld fel fforwm i ffotograffwyr proffesiynol ac amatur, archifwyr a chasglwyr, haneswyr a newyddiadurwyr i drafod ffotograffiaeth yng Nghymru ac i wybod mwy am gyfoeth ffotograffau Cymru a chasgliad unigryw'r Llyfrgell Genedlaethol.


 


Eleni hefyd mi fydd yr ŵyl yn cynnwys teyrnged drwy ffilm a ffotograff i un o ffotograffwyr enwocaf Cymru, Philip Jones Griffiths, a fu farw yn gynharach eleni.


 


Yn ôl llefarydd yr ŵyl, Medi Jones-Jackson, “Mi roedd Philip yn gefnogwr brwd o ŵyl Lens, wedi ymweld ar ŵyl ac wedi bod yn siaradwr gwadd dwy flynedd yn ôl.  Mi roedd colli Philip yn golled mawr i’r byd ffotograffig ac rydym yn gobeithio talu teyrnged haeddiannol iddo ef a’i waith unigryw”.


 


Lens yw’r unig ŵyl o’i math yng Nghymru. Fe’i cynhelir yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth, sydd yn gartref i gasgliad mwyaf y genedl o ffotograffau dogfennol. Mae yno 800,000 o ffotograffau yn amrywio o’r llun cyntaf a dynnwyd yng Nghymru yn 1841 i weithiau gan ffotograffwyr cyfoes.


 


Cynhelir Lens ar 1 Tachwedd


Cost tocyn £20 gan gynnwys cinio


Swyddfa Docynnau 01970 632 548


Am ragor o wybodaeth www.llgc.org.uk/lens08


 


 


Am wybodaeth bellach


 


Medi Jones-Jackson ar 01970 632 534 neu llinosmedi.jones@llgc.org.uk

Copyright © Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales 2006

Diweddarwyd: 22-10-2012