Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Maw, 30 Med 08 15:12:00
Bydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn hawlio’i lle ochr yn ochr â rhai o lyfrgelloedd mawr y byd pan fydd y Gweinidog dros Dreftadaeth, Alun Ffred Jones AC, yn dadorchuddio ei strategaeth dair blynedd newydd, Llunio’r Dyfodol, yn y Senedd ddydd Mercher yma.
Fel rhan o’i nod i gynyddu mynediad, bydd staff y Llyfrgell yn dechrau ar brosiect digido deng mlynedd sy'n anelu i osod cymaint ag y bo modd o gasgliad y Llyfrgell arlein er mwyn i bawb eu harchwilio a’u mwynhau, ym mha bynnag gwr o’r byd y maent.
Bydd y deunydd ar gael ar gyfer bob math o ddibenion, boed yn gymorth i’r sector addysg ar bob lefel neu’n fan cyfeirio i bobl sydd am wybod rhagor am hanes eu teulu.
Fel y dywedodd ei Llywydd, y Gwir Anrhydeddus Dafydd Wigley, wrth sôn am uchelgais y Llyfrgell ar gyfer y dyfodol:
‘Rydym am fod yn ffenestr i Gymru, gan roi cyhoeddusrwydd i Gymru’r gorffennol a’r presennol, yn ogystal â’r dyfodol wrth i ddeunydd newydd gael ei ychwanegu. Bydd hyn yn gymorth i roi hwb i economi Cymru, annog pobl i ymweld ac/neu ddefnyddio ei gwasanaethau a hefyd ei helpu i fod yn rym blaenllaw yn ddiwylliannol ac yn ddeallusol. Bydd y prosiect yn dangos fod Cymru yn llwyddo yn ei nod o ddod yn economi wybodaeth ac ar flaen y gad o ran technoleg fodern, gan ddatblygu sgiliau ac arbenigedd i’w hedmygu gan eraill. Bydd digideiddio hefyd yn herio pobl i ailystyried yr argraff sydd ganddynt o Gymru. Bydd yn fodd i atgoffa’r rheiny sy’n byw yma fod Cymru yn fwy na dim ond darn o dir, ac yn atgoffa’r Cymry Alltud nad yw bod yn Gymro o angenrheidrwydd yn golygu eich bod yn gorfod byw yn y wlad’.
Dywedodd y Gweinidog dros Dreftadaeth, Alun Ffred Jones AC;
‘Rwy wedi fy nghalonogi’n fawr i weld Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn ymateb i’r her a’r cyfleoedd sy’n dod yn sgil y dechnoleg newydd. Bydd y strategaeth hon yn sicrhau fod adnoddau electronaidd yn cymryd eu lle ysgwydd wrth ysgwydd gyda llyfrau, llawysgrifau a ffotograffau yng nghasgliadau’r Llyfrgell. Mae’r strategaeth yn adeiladu ar yr hyn a gyflawnwyd eisoes wrth agor y drysorfa enfawr a diddorol yma yn un o’n prif sefydliadau i gynulleidfaoedd newydd am ddim yma yng Nghymru a thu hwnt i’r ffin, ar y rhyngrwyd.’
Am ragor o wybodaeth
Sara Branch, Rheolwr Strategaethau ac Ymchwil
01970 632 839 sara.branch@llgc.org.uk