Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Gwe, 03 Hyd 08 16:00:00
Mae copi diweddaraf Dalen, cylchlythyr y Llyfrgell, ar gael arlein. Mae Dalen yn cael ei gyhoeddi ddwywaith y flwyddyn ac yn cynnwys y straeon diweddaraf o’r Llyfrgell, yn talu sylw i gasgliadau diweddaraf, prosiectau diddorol sydd ar y gweill a chip olwg ar waith staff y Llyfrgell.
Mae uchafbwyntiau Dalen rhifyn 8 yn cynnwys cip olwg ar arddangosfa lluniadau Leonardo da Vinci, proffil o Iwan Dafis sydd wedi ei benodi i gatalogio gweithiau Kyffin a Lens, gŵyl ffotograffau a gynhelir yn y Llyfrgell ar 1 Dachwedd.
Mae copi diweddaraf Dalen ar gael arlein.
Mae croeso i chi danysgrifio i dderbyn copi am ddim o Dalen drwy’r post drwy ddanfon ebost at holi@llgc.org.uk. Nodwch y gair ‘Dalen’ yn nhestun eich ebost. Neu gallwch gysylltu â’r Llyfrgell ar 01970 632 800.
Am ragor o wybodaeth
Medi Jones-Jackson
Swyddfa’r Wasg
Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Aberystwyth
SY23 3BU
llinosmedi.jones@llgc.org.uk
01970 632 534