Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

The National Library of Wales

What's On?
Cefnogwch Ni

Cefnogwch Ni

Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Rhowch nawr!

Neges o Gyfarchion a Llongyfarchiadau oddi wrth Prifysgol Cymru

Gwe, 30 Maw 07 11:48:00


Yng Nghynulliad Prifysgol Cymru i ddyfarnu graddau er anrhydedd, a gynhelwyd yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin, ar ddydd Gwener 30 Mawrth, cyflwynodd Dirprwy Ganghellor y Brifysgol Neges o Gyfarchion a Llongyfarchiadau gan y Brifysgol i Lyfrgell Genedlaethol Cymru, i ddathlu canmlwyddiant dyfarnu Siarter Frenhinol gyntaf y Llyfrgell Genedlaethol ym mis Mawrth 1907.



Cafodd y cyflwyniad ei wneud i Dr R Brinley Jones, Llywydd y Llyfrgell Genedlaethola Mr Andrew Green, y Llyfrgellydd.



Mae gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Phrifysgol Cymru sawl peth yn gyffredin. O safbwynt hanesyddol, yr hyn sy’n eu huno’n fwy na dim yw’r ffaith i’r ddau sefydliad gael eu sefydlu o ganlyniad i alw cyhoeddus - dymuniad cynyddol am gyfleodd addysgol ehangach, dyheadau lleol cryf ac ysbrydoliaeth genedlaethol ddofn.



Mae’r ddau sefydliad hefyd yn paratoi ar gyfer datblygiadau’r dyfodol - y Brifysgol drwy edrych ymlaen at gyflwyno newidiadau radical fydd yn ei galluogi i gwrdd â’r aml her a ddaw mewn hinsawdd addysg uwch sy’n newid yn gyflym, a’r Llyfrgell drwy lansio ei phrosiect digido, fydd yn golygu gosod ei chyhoeddiadau, o’i gorffennol a’i phresennol, arlein.



Rydym wedi gweithio gyda’n gilydd yn y gorffennol ar wahanol brosiectau; byddwn yn croesawu cyfleoedd i wneud hynny eto pan ddaw achlysuron pwrpasol. Am y tro, hyfrydwch i’r Brifysgol yw cael nodi’r garreg filltir hon trwy gyflwyno’i chyfarchion a’i llongyfarchiadau’n ffurfiol.




Gwybodaeth Bellach:


Siôn Jobbins, Swyddfa’r Wasg LlGC: 01970 632902sij@llgc.org.uk

Copyright © Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales 2006

Diweddarwyd: 22-10-2012