Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Mer, 12 Tac 08 14:07:00
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi bod yn gartref i 40 000 o ddarluniau ers blynyddoedd. Mae ei hadeilad eiconig neo-glasurol wedi bod yn destun llun gan sawl artist ers degawdau. Yn mis Chwefror 2009 bydd y Llyfrgell yn agor ei drysau i groesawu cwrs Celf yn Nghymru: Tirluniau, cwrs Ysgol Addysg a Dysgu Gydol Oes Prifysgol Aberystwyth fydd yn rhedeg o’r 2ail o Chwefror tan y 11eg o Fai 2009.
O dawelwch dramatig Castell Dolbadarn, i dirlun diwydiannol Dyffryn Rhondda, mae tirwedd Cymru wedi bod yn ysbrydoliaeth i artistiaid ers y Cyfnod Rhamantaidd yn y 18fed ganrif. Bydd y cwrs yn archwilio gwaith artistiaid Cymreig a Di-Gymraeg a phwysigrwydd eu gwaith o fewn cyd-destun celf Brydeinig a chelf Ewropeaidd. Bydd y cwrs hefyd yn archwilio'r elfennau cymdeithasol, gwleidyddol a chelfyddydol, gan gynnwys cenedlaetholdeb a hunaniaeth, sydd wedi effeithio ar Gymru a sut y maent wedi eu amlygu wrth greu delweddau o dirlun Cymru.
Bydd y cwrs at ddant unrhyw un sydd â diddordeb yng nghelf weledol Cymru. Bydd y cwrs yn astudio amryw gyfrwng gwahanol gan gynnwys peintiadau, printiau a ffotograffau. Drwy gydol y cwrs bydd myfyrwyr yn dysgu am artistiaid nodedig megis Syr Kyffin Williams (1918-2006), Fay Godwin (1931-2005), Martin Bloch (1883-1954), Richard Wilson (1713-1782), Thomas Jones (1742-1803), Josef Herman (1911-2000), Mary Lloyd Jones (b.1934), George Chapman (1908-1993) ac eraill. Bydd digon o gyfleoedd am drafodaeth a sgwrs ac amser hefyd wedi neilltuo i artistiaid tirwedd i drafod eu gwaith unigol hwy.
Cost: £50 (£40 con)
Llyfrgell Genedlaethol Cymru
02.02.09 – 11.05.09
10.30am - 1.00pm
Am ragor o wybodaeth ewch i www.aber.ac.uk/sell neu cysylltwch â 01970 621 580