Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Gwe, 21 Tac 08 11:44:00
Mae’n bleser gan Dafydd Wigley, Llywydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac Alun Ffred Jones, Gweinidog Treftadaeth, Llywodraeth Cynulliad Cymru, gyhoeddi penodiad tri Ymddiriedolwr i wasanaethu ar Fwrdd y Llyfrgell. Y tri yw’r Athro Roy Evans, Yr Athro Aled Gruffydd Jones a Mr Roy Roberts. Cawsant eu cadarnhau’n eu hymddiriedolaeth yng nghyfarfod Bwrdd y Llyfrgell ar ddydd Gwener 14 Tachwedd 2008 gan ddechrau ar eu cyfnod fel aelodau ar 1 Rhagfyr 2008.
Is-ganghellor Prifysgol Bangor oedd yr Athro Roy Evans cyn iddo ymddeol yn 2004 a chyn hynny bu’n ddarlithydd, Pennaeth yr Ysgol Beirianneg a Dirprwy is-ganghellor Prifysgol Caerdydd. Addysgwyd yr Athro Evans yn Ysgol Ramadeg Llandysul a Phrifysgol Abertawe. Yn 2002 fe’i hanrhydeddwyd gyda’r CBE a’i enwi’n Gymeriad Busnes Gogledd Cymru yr un flwyddyn. Mae’n Gymrawd o Academi Frenhinol Peirianneg ac ar hyn o bryd ef yw Cadeirydd Partneriaeth Adfywio Economaidd Ceredigion ac yn gwasanaethu ar gyrff llywodraethol UWIC a Phrifysgol Caerdydd.
Mae’r Athro Aled Gruffydd Jones yn Ddirprwy Is-ganghellor ym Mhrifysgol Aberystwyth a chyn hynny bu’n ddeon cyfadran y celfyddydau a Phennaeth a sylfaenydd yr Adran Hanes a Hanes Cymru gyfunol, eto ym Mhrifysgol Aberystwyth: ef hefyd yw Athro Hanes Cymru Syr John Williams y Brifysgol. Yn ogystal â bod yn awdur toreithiog y mae’n hanesydd o’r radd flaenaf ac yn ysgolhaig o bwys rhyngwladol. Addysgwyd yr Athro Aled Jones yn Ysgol Ardudwy Harlech a Phrifysgolion Caerefrog a Warwig. Mae’n Gymrawd a chyn-Gyfarwyddwr Llenyddol y Gymdeithas Hanesyddol Frenhinol.
O fyd darlledu y daw Mr Roy Roberts yn aelod o’r Bwrdd. Yn ei dro fe fu’n Ddirprwy Reolwr, Darlledu Rhanbarthol gyda’r BBC, Pennaeth Rhaglenni Rhanbarthol a lleol y Gorfforaeth yn ne orllewin Lloegr a Gohebydd Diwydiannol BBC Cymru. Ef yw cadeirydd Grŵp Cynghori ar Dlodi Tanwydd Llywodraeth y Cynulliad. Addysgwyd yn Ysgol Ramadeg Ardwyn, Aberystwyth, Prifysgol Abertawe ac Ysgol Fusnes Prifysgol Bradford. Mae’n frodor o Aberystwyth a phenderfynodd ddychwelyd yn ôl i’w hen fro yn dilyn ei ymddeoliad yn ddiweddar.
Dywedodd Dafydd Wigley, Llywydd y Llyfrgell:
“Braf oedd gweld gymaint o ymgeiswyr rhagorol yn dymuno dod yn Ymddiriedolwyr y sefydliad pwysig hwn, a hyfrydwch o’r mwyaf yw medru apwyntio unigolion fel y tri hyn sydd â gwybodaeth a phrofiad tra eang a defnyddiol i’r Llyfrgell. Mae’r Llyfrgell yn wynebu nifer o sialensiau yn ystod y blynyddoedd nesaf yma a gallaf ddweud yn hyderus erbyn hyn fod gennym Fwrdd o Ymddiriedolwyr abl a galluog sy’n meddu'r cymwyseddau angenrheidiol i fynd i’r afael yn hyderus a’r sialensiau hyn”
Dywedodd Alun Ffred Jones, y Gweinidog dros Dreftadaeth:
“Hyderaf y bydd profiadau gwerthfawr yr unigolion eithriadol hyn sydd wedi'u penodi i Fwrdd Ymddiriedolwyr y Llyfrgell Genedlaethol o ddefnydd mawr i’r sefydliad, a hyderaf y byddant yn gwneud cyfraniad arwyddocaol i waith y Llyfrgell yn ystod cyfnod eu penodiadau.”
Bydd y tri aelod newydd yn cychwyn ar eu gwaith ar 1 Rhagfyr 2008 a bydd eu penodiadau’n para pedair blynedd. Nid yw Ymddiriedolwyr y Llyfrgell yn derbyn cydnabyddiaeth ariannol ar hyn o bryd.
Nid yw’r Athro Roy Evans na’r Athro Aled Gruffydd Jones yn dal unrhyw benodiadau Gweinidogol. Mr Roy Roberts yw cadeirydd Grŵp Cynghori ar Dlodi Tanwydd Llywodraeth y Cynulliad ac mae’n derbyn cydnabyddiaeth ariannol o £106 y diwrnod am 2-3 diwrnod o waith y mis.
Cefndir
Bwrdd y Llyfrgell yw Bwrdd annibynnol yr Ymddiriedolwyr, ac mae’n cadw casgliadau’r Llyfrgell mewn ymddiriedolaeth ar gyfer pobl Cymru ac yn rhoi cyfeiriad strategol i waith y Llyfrgell. Llywydd y Llyfrgell, sy’n cadeirio’r Bwrdd, yw’r Gwir Anrhydeddus Dafydd Wigley PC. Swyddogion penodedig eraill sydd ar y Bwrdd yw’r Is-lywydd, Mr Arwel Ellis Owen, a’r Trysorydd, Mr Conrad Bryant, y mae ei gyfnod gwasanaeth yn dod i ben yng Ngorffennaf 2009.
Mae gofyn i Ymddiriedolwyr gyflawni dyletswyddau ymddiriedolwr elusen, fel y’u diffiniwyd a’u cyflwynwyd gan y Comisiwn Elusennol.
Dylai Ymddiriedolwyr hefyd wybod am yr ymrwymiadau arnynt sy’n codi yn sgil sefyllfa’r Llyfrgell fel Corff a Noddir gan Lywodraeth y Cynulliad. Mae’r rhain wedi’u cyflwyno yn y Datganiad Rheoli a’r Memorandwm Ariannol, sy’n egluro’r Telerau a’r Amodau y mae’r Llyfrgell yn derbyn Arian gan y Cynulliad drwyddynt, ac sydd ar hyn o bryd yn destun adolygiad gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a’r Llyfrgell.
Y Llyfrgell
Llyfrgell Genedlaethol Cymru yw un o brif sefydliadau diwylliannol Cymru, a phrif ffynhonnell gwybodaeth a gofnodwyd y wlad. Mae’n gorff o fri rhyngwladol, ac mae’n cyfrannu at rwydwaith fyd-eang o ddarparwyr gwybodaeth. Mae’r Llyfrgell yn anarferol, os nad unigryw, ymysg llyfrgelloedd cenedlaethol o ran ei bod yn casglu ac yn rhoi mynediad i wybodaeth a gofnodwyd ym mhob cyfrwng bron â bod – llyfrau, cyfnodolion, papurau newydd, llawysgrifau ac archifau, mapiau, peintiadau, lluniau a phrintiau, ffotograffau, delweddau symudol a sain, a chyfryngau electronig. Mae’r Llyfrgell yn CNLC (sef Corff a Noddir gan Lywodraeth y Cynulliad) a hefyd yn elusen gofrestredig sy’n gorfod bodloni Cyfraith Elusennau.
Cafodd strategaeth y Llyfrgell ei lansio yn ddiweddar yn adeilad y Senedd yng Nghaerdydd, ac mae’n ceisio llywio llwybr ar gyfer datblygiad y Llyfrgell dros y tair blynedd nesaf (2008-2009 hyd at 2010-2011). Mae’n cynnig strategaeth sydd am ddiogelu gwaith hanfodol presennol y Llyfrgell, ar yr un pryd ag agor y potensial anferthol sydd gan y Llyfrgell i gyfoethogi pobl Cymru, er budd cynulleidfaoedd ehangach a defnyddwyr newydd.
Mae’r Llyfrgell yn dibynnu’n bennaf ar Lywodraeth Cynulliad Cymru am ei chyllid, er ei bod hefyd yn denu arian o nifer o ffynonellau eraill gan gynnwys grantiau o gyrff eraill, cefnogaeth gan unigolion, incwm o’i gweithgarwch masnachu a’i chyllid elusennol ei hun.
Côd Ymddygiad Swyddfa’r Comisiynydd dros Benodiadau Cyhoeddus
Gwneir pob penodiad ar deilyngdod ac nid yw gweithgareddau gwleidyddol yn effeithio ar y broses penodi. Er hynny, yn unol ag argymhellion Nolan, mae’n angenrheidiol i gyhoeddi gweithgareddau gwleidyddol (os datganwyd unrhyw weithgareddau gwleidyddol) y sawl y’u penodwyd. Ni ddatganwyd unrhyw weithgareddau gwleidyddol gan yr ymgeiswyr a benodwyd. Gwnaethpwyd y penodiadau yn unol â Chôd Ymarfer OCPA (Swyddfa’r Comisiynydd dros Benodiadau Cyhoeddus).
Gwybodaeth Bellach:
Medi Jones-Jackson, Swyddfa’r Wasg LlGC: 01970 632 534 medi.jones-jackson@llgc.org.uk