Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Llu, 24 Tac 08 10:36:00
Yn wyneb gwasgfa ariannol mae Bwrdd y Llyfrgell Genedlaethol wedi penderfynu cau’r adeilad i’r cyhoedd ar ddydd Sadwrn o 1 Ebrill 2009 ymlaen.
Daw’r penderfyniad anffodus ond hanfodol hwn fel rhan o becyn sy’n ymateb i’r rheidrwydd ar y Llyfrgell i arbed £250,000 yn y flwyddyn ariannol nesaf.
Gorfodwyd y Llyfrgell i gymryd y cam difrifol hwn yn sgil lleihad cyson yn ei chyllideb wedi chwyddiant dros y blynyddoedd diwethaf a lleihad pellach dros y blynyddoedd i ddod.
Goblygiadau hyn i’r cyhoedd fydd nid yn unig colli gwasanaeth yr ystafelloedd darllen ond hefyd mynediad at arddangosfeydd, bwyty, siop a chanolfan boblogaidd i ymwelwyr a chynadleddwyr o led led Cymru a thu hwnt.
Dywedodd Andrew Green, Llyfrgellydd y Llyfrgell Genedlaethol:
“Mae hyn yn benderfyniad anodd ond angenrheidiol er mwyn cynnal gwasanaethau eraill y Llyfrgell.”
Dywedodd Dafydd Wigley, Llywydd y Llyfrgell:
“Rhoddwyd y Llyfrgell mewn sefyllfa amhosibl a phobl Cymru sydd yn mynd i orfod dioddef o golli gwasanaeth un o’u sefydliadau pwysicaf ar yr unig ddiwrnod o’r wythnos y mae llawer yn gallu ymweld ag o.”
Noddir y Llyfrgell Genedlaethol gan CyMAL (Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd Cymru) ar ran Llywodraeth Cynulliad Cymru.