Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

The National Library of Wales

What's On?
Cefnogwch Ni

Cefnogwch Ni

Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Rhowch nawr!

Llwyfan Cenedlaethol i Waith Celf Disgyblion Pedair Ysgol ac Artist Preswyl

Maw, 25 Tac 08 11:23:00

 


Wedi blwyddyn o waith, mae Artist preswyl y Llyfrgell Genedlaethol, Blue McAskill a disgyblion pedair ysgol yn barod i ddadorchuddio eu gwaith wrth iddo gael ei arddangos yr wythnos hon.


 


Penodwyd Blue McAskill fel artist preswyl y Llyfrgell yn Ionawr 2008. Dros y flwyddyn ddiwethaf mae Blue wedi cael mynediad at gasgliad helaeth y Llyfrgell sy’n gartref i nifer o drysorau’r genedl gan gynnwys llyfrau prin, llawysgrifau, mapiau, lluniau, peintiadau heb son am ffilm a thapiau sain.


 


Fel rhan o'r prosiect, gweithiodd Blue yn agos gyda 4 ysgol o bob rhan o Gymru - dwy ysgol gynradd; Ysgol Gynradd Tan y Castell, Harlech ac Ysgol Gynradd Nantgaredig, ger Caerfyrddin a dwy ysgol uwchradd yn y Canolbarth; Ysgol Uwchradd Bro Ddyfi ym Machynlleth ac Ysgol Uwchradd Llanidloes. Buont yn ymchwilio'n bennaf i'r cysylltiad diwylliannol rhwng casgliadau'r Llyfrgell a’u cymunedau lleol drwy gyfrwng peintio, ffilm, ffotograffiaeth a phrint.


 


Graddiodd MacAskill o Ysgol Gelf Wimbledon gyda gradd Meistr mewn Celfyddyd Gain yn 2005, ac ers hynny mae Blue wedi dangos ffilmiau ac arddangos gwaith drwy wledydd Prydain yn ogystal ag yn Ne Affrica, Sweden a Phortiwgal ac enillodd wobr am y gwneuthurwr ffilmiau mwyaf addawol yng Ngŵyl Ffilmiau Bae Abertawe.


 


Meddai Blue, "Cyn dod i'r llyfrgell fel artist preswyl, roeddwn i wedi gweld y llyfrgell, ond doedd gen i ddim syniad o faint y casgliadau hynod sy'n cael cartref yma. Rwyf wedi dysgu cymaint yn ystod fy mlwyddyn o weithio yn y Llyfrgell Genedlaethol - mi wnes i hyd yn oed canfod fod fy hen ewythr Dr E A Lewis wedi helpu sefydlu'r adran lawysgrifau’r Llyfrgell!


 


Mae’r arddangosfa'n dilyn darganfyddiadau Blue yn ystod ei blwyddyn yn y Llyfrgell a’i hymateb personol hi nid yn unig i'r adeilad ond i'r casgliadau hefyd.


 


Mae’r arddangosfa o waith Blue ar agor yn y Llyfrgell Genedlaethol o 28 Tachwedd 2008 - 31 Ionawr 2009. 


 


Cefnogwyd y prosiect hwn gan 'SAFLE', Sefydliad Celf Cyhoeddus Cymru a ariennir gan Gyngor Celfyddydau Cymru.


 


Am wybodaeth bellach cysylltwch â Blue MacAskill neu ymwelwch â thudalen yr Artist Preswyl.


 


Swyddfa’r Wasg


Medi Jones-Jackson


medi.jones-jackson@llgc.org.uk


01970 632 534

Copyright © Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales 2006

Diweddarwyd: 22-10-2012