Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

The National Library of Wales

What's On?
Cefnogwch Ni

Cefnogwch Ni

Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Rhowch nawr!

Siopa gyda’r Hwyr yn y Llyfrgell Genedlaethol – Dathlu’r ‘Dolig

Mer, 03 Rha 08 12:15:00

 


Bydd y Llyfrgell Genedlaethol ar agor tan 20.00 Nos Iau 11 Rhagfyr ar gyfer siopa a digwyddiadau Nadoligaidd.


 


Gall siopwyr fwynhau gostyngiadau ar nifer o eitemau gan gynnwys llyfrau, addurniadau, printiau celf a chynyrch lleol yn siop y Llyfrgell.


 


Bydd hefyd cyfle i ymuno yn hwyl yr ŵyl mewn digwyddiad canu carolau am 18.00 gyda’r elw’n mynd at elusen. Bydd hefyd mins peis a gwin cynnes am ddim ynghyd â chyfle i ymuno â theithiau arbennig o amgylch arddangosfa Leonardo da Vinci am 17.00 ac am 18.45.


 


Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Siop y Llyfrgell ar 01970 632 548.

Copyright © Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales 2006

Diweddarwyd: 22-10-2012