Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Mer, 03 Rha 08 17:29:00
Bydd arddangosfa o waith yr arlunydd o Flaenau Ffestiniog, Gareth Parry, i’w gweld yn y Llyfrgell Genedlaethol, Aberystwyth, o 6 Rhagfyr - 28 Chwefror 2009. Agorir yr arddangosfa yn swyddogol ar y 13eg o Ragfyr gan David Maredith.
Mae Gareth yn enedigol o Flaenau Ffestiniog, ac wedi treulio’r rhan fwyaf o’i amser yn byw yn y fro. Fe astudiodd am gyfnod yn ysgol Gelf Manceinion, cyfaddefodd ei fod wedi dadrithio yno ac fe aeth yn ôl i Flaenau i weithio yn y chwarel leol am ddwy flynedd, cyn iddo ail-gydio yn ei waith celf. Yn ôl Gareth, ffurfiwyd llawer o’i agwedd at fywyd gan y bobl o’i amgylch, tirwedd ardal Blaenau ac annhegwch y diwydiant llechi yn yr ardal.
Wedi llwyddiant ysgubol ei arddangosfa flaenorol yn y Llyfrgell mae ei gelf wedi datblygu ac mae ei gariad at y fro a’i thirwedd wedi parhau. Gwelwn bwyslais yn ei waith ar effaith y golau a dylanwad y tywydd a'r tymor ar y dirwedd neu olygfa o’i flaen.
Mae darluniau portreadol Gareth yn adlewyrchiad o fywyd pob dydd y fro, yn seiliedig ar ddarnau o sgwrs a drawodd ar ei glyw wrth gerdded lawr stryd fawr Blaenau. Mae llawer o’r darnau yn dangos pobl gyffredin yn mynd o gwmpas eu bywydau, tra mae eraill yn cynrychioli ymdrech i nodi hiwmor naturiol ac eironi bywyd.
Mae Gareth bob amser wedi meddwl am ei hun fel peintiwr, nid artist. Mae paent, a thrafod paent, yn fwy pwysig iddo ef a’i waith na ‘syniadau’.
Er bod rhai o’r gweithiau yma yn adlewyrchu edmygedd Gareth o arlunwyr mawr fel Caravaggio, mae’n awyddus i’r gynulleidfa eu mwynhau yn syml - fel peintiadau!
Caiff yr arddangosfa ei dangos yn y Llyfrgell Genedlaethol o 6 Rhagfyr 2008 – 28 Chwefror 2009. Gweithiau ar werth.
Mercher 11 Chwefror 13.15pm
Sgwrs Oriel: Rhai Llefydd, Rhai Pobl
Gareth Parry yn rhoi sgwrs oriel am ei arddangosfa ddiweddaraf.
Mynediad am ddim drwy docyn - llefydd cyfyngedig.
Swyddfa’r Wasg
Medi Jones-Jackson
medi.jones-jackson@llgc.org.uk
01970 632 534