Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Mer, 14 Maw 07 10:34:00
Caiff y gyfrol Gernyweg Canol hirddiswyliedig, B
ewnans Ke: the Life of Saint Kea, ei lansio yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth nos Wener 9 Mawrth.
Mae'r gyfrol hynod hon, a gyhoeddwyd gan Wasg Prifysgol Caerwysg (Exeter) ar y cyd â Llyfrgell Genedlaethol Cymru, yn cyfuno gwaith ysgolheigaidd trylwyr gan gynnwys cyflwyniad i gyd-destun ac iaith y ddrama, ynghyd â chyfieithiad Saesneg cyfoes yn cyd-redeg â'r testun Cernyweg gwreiddiol. Golygwyd y llyfr ar y cyd gan Graham Thomas, gynt o Adran Llawysgrifau Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Nicholas Williams, Athro Cynorthwyol yr Ieithoedd Celtaidd, Coleg y Brifysgol Dulyn.
Mae'r llawysgrif hynod yn enghraifft brin o ddrama mewn Cernyweg Canol sy'n adrodd hanes gwrthdaro rhwng Sant Ke (Cai yn Gymraeg), nawddsant plwyf Kea yng Nghernyw, a Teudur, teyrn lleol. Yn ogystal mae darn hir o'r llawysgrif yn ymwneud â'r Brenin Arthur, godineb y Frenhines Gwenhwyfar â nai Arthur, Medrod, a brwydr Arthur â Medrod.
Mae'r ddrama yn gyfraniad pwysig i iaith a llenyddiaeth Cernyweg Canol yn ogystal â bwrw golwg ar gwlt Sant Cai yng Nghernyw.
Darganfuwyd y llawysgrif yn rhan o gasgliad papurau'r diweddar Athro Emeritws J E Caerwyn Williams a gyflwynwyd i Lyfrgell Genedlaethol Cymru, gan ei weddw, y diweddar, Gwen Caerwyn Williams, yn 2000. Adnabyddir y llawysgrif fel NLW MS 23849D. Mae Bewnans Ke yn un o 2 ddrama Cernyweg Canol yng nghasgliad y Llyfrgell, Beunans Meriasek yw'r llall.
Lansiad Bewnans Ke
6.00pm Nos Wener, 9 Mawrth 2007
Y Drwm, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth
Gellir prynu copi o Bewnans Ke o Siop y Llyfrgell Genedlaethol. Ffoniwch 01970 632 548 neu e-bostiwch hns@llgc.org.uk. Pris £60.
Am wybodaeth bellach neu ddelweddau:
Siôn Jobbins, Swyddfa'r Wasg LlGC: 01970 632 902 sij@llgc.org.uk
Dolenni:
Tudalen LlGC ar lawysgrif Bewnans Ke:
Tudalen LlGC ar Beunans Meriasek, drama Gernyweg arall:
Gwasg Prifysgol Caerwysg: www.exeterpress.co.uk