Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

The National Library of Wales

What's On?
Cefnogwch Ni

Cefnogwch Ni

Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Rhowch nawr!

Llyfrgell Genedlaethol ac AASTRA yn dadorchuddio'r system ffôn gyntaf sy'n cefnogi'r Gymraeg

Gwe, 16 Ion 09 16:11:00

 


Mae Aastra, cwmni blaenllaw sy’n un o arweinwyr y farchnad gyfathrebu, yn cydnabod bod sefydliadau sy’n gweithredu trwy gyfrwng y Gymraeg yn chwarae rhan hollbwysig yn ffyniant y wlad, yn economaidd ac yn ddiwylliannol. IntelliGate 7.7 yw’r cyntaf o gynnyrch Aastra i ymgorffori’r Gymraeg yn yr hyn y gall ei gyflawni. Bellach gall defnyddwyr ddewis anogeiriau Cymraeg ar sgriniau arddangos ystod eang o ffonau system IntelliGate, sydd wedi’u llunio ar gyfer pob cyllideb a chymhwysiad, ac yn cynnwys rhai digidol, IP, di-wifr ac opsiynau cyfrifiadurol.


 


Dywedodd Mike Ballantine, Rheolwr Datblygu Busnes yn Aastra UK: “Rydym ni’n credu mai Aastra yw’r cwmni cyntaf i gynnig datrysiadau mor ddatblygedig yn y Gymraeg. Roeddem ni’n teimlo ei bod hi’n bwysig darparu offer i helpu ac annog defnydd o’r Gymraeg yn y gweithle, a ffôn y swyddfa yw un o’r teclynnau amlycaf i wneud hynny yng ngweithrediad beunyddiol busnes.”


 


“Rydym hefyd yn cydnabod bod angen datrysiadau sy’n gallu gwella cynhyrchiant a gwasanaeth cwsmeriaid ar fusnesau bach a chanolig. Mae’r fersiwn ddiweddaraf hon o IntelliGate yn ffordd ddiffwdan o gyflawni hyn, drwy ddarparu cymwysiadau uwch ar gyfer rheoli presenoldeb a symudedd.” ychwanegodd Mike Ballantine.


 


“Gyda dros 300 o staff, mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn gyflogwr mawr yn y Canolbarth yn ogystal â bod yn sefydliad cenedlaethol o bwys. Mae dros 70% o'n staff yn siaradwyr Cymraeg - nifer ohonynt wedi dysgu'r iaith ac yn hannu o Dde Affrica, Iwerddon, Lloegr a Chymru. Rydym yn hynod o falch i ni gydweithredu ag Aastra er mwyn cynnig gwasanaeth Cymraeg i'n staff ac i weld yr iaith Gymraeg yn ei phriod le gydag ieithoedd eraill Ewrop. Mae hwn yn gam positif i'r iaith ac yn rhoi dewis a pharch i'n staff yn yr iaith o'u dewis.” medd Andrew Green, Llyfrgellydd y Llyfrgell Genedlaethol.

Copyright © Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales 2006

Diweddarwyd: 22-10-2012