Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Maw, 20 Ion 09 11:58:00
Mae’r Llyfrgell Genedlaethol wedi dadorchuddio dyluniad ar gyfer labeli newydd, wedi eu hargraffu yn arbennig gan Wasg Gregynog, ar gyfer cymynrodd Syr Kyffin Williams.
Mae cymynrodd Syr Kyffin Williams yn un o'r casgliadau pwysicaf i gyrraedd y Llyfrgell yn ddiweddar. Yn ôl Dr Paul Joyner, Pennaeth Adnau Archifau a Chelf y Llyfrgell, “Mae’r eitemau oddi fewn cymynrodd Kyffin yn werthfawr iawn i’r genedl, ac rwy’n siŵr byddent yn teithio ymhell iawn i gael ei harddangos mewn nifer o lefydd - mae nifer o eitemau’r gymynrodd eisoes wedi ei benthyg i Oriel Kyffin Williams, Llangefni, ar gyfer agoriad y galeri.”
Cafodd y labeli eu dylunio yn arbennig gan argraffwr gweithiau Kyffin, David Vickers, Gwasg Gregynog a’u hargraffu gan y wasg honno hefyd, i’r safonau roedd Kyffin ei hun yn ei edmygu. Mae’r labeli wedi eu hargraffu mewn lliw llwyd - 'llwyd Kyffin', fel y gwelir yn nyluniad arbennig Kyffin ar gyfer argraffiad arbennig o lyfr 'Two Old Men', Kate Roberts.
Bydd pob eitem o’r gymynrodd wedi eu stampio â'r label, fel ei bod hi’n bosibl dweud ar unwaith pa eitemau sy'n ffurfio ei anrheg ef i’r genedl.
Ar y 23ain o Ionawr 2009, ymwelodd David Vickers â'r Llyfrgell, er mwyn cyflwyno’r labeli i Fwrdd y Llyfrgell.
Noddwyd y labeli newydd gan aelodau Pennodau, cynllyn noddwyr y Llyfrgell Genedlaethol.
Swyddfa'r Wasg
Medi Jones-Jackson
01970 632 534