Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Llu, 02 Chw 09 12:10:00
Mae’r Llyfrgell Genedlaethol yn falch o gyhoeddi y bydd Ffion Hague yn siaradwraig wâdd mewn darlith arbennig wedi ei threfnu gan ei chynllun noddwyr Penodau. Dyma’r cyntaf mewn cyfres o ddigwyddiadau arbennig wedi eu trefnu ar gyfer 2009. Cynhelir y ddarlith nos Iau, 5 Chwefror yn Theatr Reardon Smith, Amgueddfa Cymru, Caerdydd.
Bydd Ffion sy’n enedigol o Gaerdydd yn traddodi yn Saesneg ar ei llyfr newydd poblogaidd The Pain and the Privilege - The Women in Lloyd George’s Life. Mae’r gyfrol lwyddiannus yn trafod y menywod niferus ym mywyd personol diddorol a chymhleth y Prif Weinidog adeg y Rhyfel Mawr, David Lloyd George. Gwelir dylanwad allweddol ei fam Betsy er enghraifft a theflir goleuni newydd ar ei berthynas â’i wraig Margaret a’i chyfraniad allweddol hi i’w lwyddiant gwleidyddol.
Fel y dywed Ffion, a raddiodd mewn Llenyddiaeth Saesneg o Goleg yr Iesu, Rhydychen:
‘Gellir dweud fod bywyd Lloyd George yn un o groestynnu parhaol. Profodd sawl sgandal personol mewn gyrfa wedi ei chysegru i wleidyddiaeth a dyletswydd gyhoeddus. Fel dyn oedd yn caru menywod yn ddiau, gwleidyddiaeth oedd yn dod gyntaf iddo bob amser fel y profodd nifer o’r menywod amlwg yn ei fywyd i’w colled.’
Mewn arolwg o 150 o Aelodau Seneddol a gomisiynwyd gan Waterstone’s yn ystod haf 2008 daeth y gyfrol i frig y rhestr o gyfrolau yr oeddynt yn bwriadu eu darllen ar ei gwyliau haf blynyddol.
Yn sgil poblogrwydd y gyfrol mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi agor y digwyddiad arbennig yma yn rhaglen weithgareddau Penodau i’r cyhoedd. Mae’n gyfle hefyd i bobl gael blas o’r hyn a gynigir gan y cynllun cyffrous hwn.
Dywedodd Andrew Green, y Llyfrgellydd:
“Braf yw medru nodi fod Penodau wedi mynd o nerth i nerth ers y lansiad flwyddyn yn ôl ac yn rydym yn gwerthfawrogi’n fawr cyfraniadau’r aelodau hynny sy’n cefnogi gwaith y Llyfrgell mewn modd ymarferol.
Ein nod yw sicrhau fod aelodau Penodau’n cael profiadau arbennig ac yn hynny o beth rydym yn hynod falch o gefnogaeth Cymry amlwg fel Ffion Hague. Pleser arbennig fydd ei chael i annerch yr aelodau yng Nghaerdydd. Mae’n argoeli i fod yn noson gofiadwy.”
Darlith Ffion Hague
Iau 5 Chwefror 2009
'The Pain and the Privilege'- Ffion Hague on the women in Lloyd George's life.
18.15 Derbyniad Gwin
19.00 Darlith
Theatr Reardon Smith, Amgueddfa Cymru, Caerdydd
Mynediad trwy docyn £10.00 – am ddim i aelodau Penodau
I archebu tocyn cysylltwch â Siop y Llyfrgell (01970) 632 548 neu arlein www.llgc.org.uk/drwm