Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Mer, 18 Chw 09 12:41:00
Mae’r Llyfrgell Genedlaethol ar fin arddangos llythyrau gan yr actor Richard Burton i'w hen ffrind ysgol mewn arddangosfa o dderbynion diweddar y Llyfrgell.
Mae’r llythyrau a thelegramau i Dennis Burgess i’w gweld yn y Llyfrgell o 28 Chwefror tan 27 Mawrth. Mae’r llythyrau'n cynnwys gwahoddiad i barti pen-blwydd Burton yn 50 mlwydd oed gan ei wraig Elizabeth Taylor. Ysgrifennwyd rhai o’r llythyrau tra roedd Burton yn ffilmio ar leoliad ac maent yn bennaf yn trafod ei ymdrechion i roi hwb i yrfa actio ei ffrind. Mae’r llythyrau hefyd yn dangos fod plant Burton wedi ei annog i actio yn y ffilm enwog, Where Eagles Dare, gyda Clint Eastwood.
‘Cefais fy annog i ddod o hyd i ffilm lle byddwn yn lladd cymaint o bobl â J Bond ac yn byw ar ddiwedd y ffilm,’ meddai Burton.
Ysgrifennodd hefyd am drefnu rhan i Burgess yn y ffilm fôr-leidr Bluebeard ac wrth drafod ei ran waedlyd ef yn y ffilm dwedodd Burton wrth ei hen ffrind ysgol, ‘Rwy'n lladd saith o'm gwragedd mewn ffyrdd dieflig iawn.’
Prynodd y Llyfrgell Genedlaethol y llythyrau, sydd hefyd yn cynnwys llythyrau i Burgess gan Syr John Gielgud, am £800 o dŷ ocsiwn Bloomsbury.
Mae’r casgliad yn cynnwys telegram gan Elizabeth Taylor, Elizabeth Burton ar y pryd, yn gwahodd Burgess a’i wraig i ddathliadau parti pen-blwydd Burton yn 50 yng Ngwesty’r Dorchester yn Llundain. Mae’r gwahoddiad yn nodi mai yn ystafelloedd moethus Orchid y gwesty roedd y parti'n cael ei gynnal ac mai ‘ffurfiol neu anffurfiol’ oedd y gofynion gwisgo.
Bydd y llythyrau i’w gweld rhwng 28 Chwefror – 27 Mawrth 2009.
Swyddfa'r Wasg
Medi Jones-Jackson
medi.jones-jackson@llgc.org.uk
01970 632 534