Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Sad, 21 Chw 09 15:47:00
Bydd nifer o ymwelwyr i Lyfrgell Genedlaethol Cymru a thrigolion Aberystwyth yn sylwi bod baner anghyfarwydd i rai yn chwifio uwchben adeilad y Llyfrgell dros ddydd Gŵyl Dewi.
Baner nawddsant Cymru, Dewi Sant, fydd y lluman o groes felen ar gefndir du, fydd yn chwifio dros adeilad y Llyfrgell dros y penwythnos ac ar ddydd Llun 2 Fawrth i ddathlu dydd ein nawddsant.
Mae chwifio’r faner yn rhan o ddigwyddiadau amrywiol yn y Llyfrgell i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi. Bydd y dathliadau'n dechrau ar ddydd Sadwrn 28 Chwefror gydag agoriad arddangosfa John Meirion Morris ‘Grymoedd’ – gweithiau gan y cerflunydd o Lanuwchllyn, sydd wedi darlithio ym Mhrifysgol Aberystwyth, ac wedi eu hysbrydoli gan y Cymry a’r traddodiad Celtaidd. Ymysg ei weithiau fydd model efydd o’i gerflun i goffáu boddi Cwm Celyn i greu cronfa ddŵr Tryweryn. Ei obaith yw gweld y cerflyn yn ei maint llawn yn cael ei chodi ger lan y gronfa ddŵr enwog – gwaith, a ddaw maes o law, mae’n siwr, mor enwog â’r 'Angel of the North' yn Lloegr (er fod syniad John yn hŷn na’r ‘Angel’).
Yn ystod Dydd Llun 2 Fawrth, bydd ymwelwyr â’r Llyfrgell yn cael y cyfle i fwynhau canu gwerin traddodiadol a detholiad o ganeuon ar y delyn Gymreig.
Press Office
Medi Jones-Jackson
medi.jones-jackson@llgc.org.uk
01970 632 534