Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

The National Library of Wales

What's On?
Cefnogwch Ni

Cefnogwch Ni

Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Rhowch nawr!

'The Life Story of David Lloyd George' nawr ar DVD

Gwe, 06 Maw 09 11:44:00

 


Mae ffilm fud nodedig am David Lloyd George a fu ar goll am ddegawdau bellach ar gael ar DVD. 


 


Mae hanes y ffilm yn un rhyfeddol a llawn dirgelwch. Wedi iddi gael ei hatal yn anesboniadwy yn 1918, fe ddiflannodd am 76 mlynedd cyn cael ei hailddarganfod gan Archif Ffilm a Theledu Cymru bellach Archif Genedlaethol Sgrin a Sain y Llyfrgell Genedlaethol. Yn dilyn gwaith adfer dyfal, dangoswyd y ffilm am y tro cyntaf yng Nghaerdydd yn 1996 ac yna mewn rhannau eraill o Brydain a ledled y byd. 


 


Mae’r ffilm a wnaed gan y cyfarwyddwr cynhyrchiol Maurice Elvey, yn dilyn bywyd Lloyd George o’i blentyndod hyd ddiwedd y Rhyfel Mawr, gan ddefnyddio actorion a channoedd o ecstras mewn golygfeydd yn y stiwdio ac mewn lleoliadau hanesyddol. Mae Norman Page yn rhoi perfformiad meistrolgar fel Lloyd George wrth iddo symud o leoliadau yn y cartref, yr ysgol a’i waith tuag at uchafbwynt ei yrfa wleidyddol. Ar ei daith o fod yn ddeddfwr cymdeithasol i fod yn arweinydd rhyfel mae’n wynebu byd o derfysgoedd, diwygiadau cymdeithasol a recriwtio. Defnyddir golygfeydd syfrdanol o dyrfaoedd a dyfeisiadau hyderus megis ôl-fflachiau lliw a gweledigaethau proffwydol.


 


Cyfansoddwyd y gerddoriaeth yn arbennig ar gyfer y DVD gan y pianydd enwog, Neil Brand. Mae’r DVD hefyd yn cynnwys cyflwyniad gan yr actor Philip Madoc a chyfweliadau gyda’r hanesydd ffilm Kevin Brownlow, ynghyd â llyfryn 16 tudalen.


 


The Life Story of David Lloyd George, 152’ (gydag ychwanegiadau 47’), ar gael o siop y Llyfrgell, pris  £18.99.


Ffôn: 01970 632 548




 


Swyddfa'r Wasg


Medi Jones-Jackson


medi.jones-jackson@llgc.org.uk


01970 632 534


 

Copyright © Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales 2006

Diweddarwyd: 22-10-2012