Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Maw, 24 Chw 09 12:56:00
Ar Ddiwrnod y Llyfr, sef dydd Iau 5 Mawrth eleni, bydd y dyfarnwr rygbi rhyngwladol, Nigel Owens, yn ymweld â’r Llyfrgell. Bydd Nigel yn trafod ei hunangofiant Hanner Amser mewn sesiwn cwestiwn ac ateb gyda’r Llyfrgellydd Cenedlaethol Andrew Green.
Bydd y sgwrs awr ginio yn digwydd yn y DRWM ac yn dechrau am 13:15.
Mae mynediad am ddim trwy docyn. Gellir archebu tocyn arlein neu trwy gysylltu â Siop y Llyfrgell ar 01970 632 548.
Dydd Iau 5 Mawrth 13:15
Mynediad am ddim trwy docyn
01970 632 548