Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Llu, 04 Mai 09 17:13:00
Mae’r Llyfrgell Genedlaethol yn falch o gyhoeddi ychwanegiad pwysig at yr adnoddau sydd i’w canfod drwy ei datrusiad chwilio newydd Adnoddau Allanol.
Mae 19th Century British Library Newspapers yn datgloi ffynhonellau cudd ar gyfer astudio'r 19eg ganrif a’r oes Fictorianaidd, drwy bapurau newydd cenedlaethol, rhanbarthol a lleol y cyfnod. Detholwyd a digidwyd rhediadau cyfan o bapurau newydd a gyhoeddwyd ym Mhrydain rhwng 1800 a 1900 ac mae’r adnodd yn cynnwys dros 1,000,000 o dudalennau.
Mae’r ffynhonell wedi ei phrynu drwy danysgrifiad gan y Llyfrgell ac mae ar gael i unrhyw ddefnyddiwr oddi fewn yr adeilad neu thu hwnt drwy gyfrif Athens.
Swyddfa'r Wasg
Medi Jones-Jackson
01970 632 534