Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Iau, 23 Ebr 09 15:29:00
Mae copi o lythyr Pennal Owain Glyndŵr bellach i’w weld yn y Llyfrgell Genedlaethol. Mae’r Llyfrgell yn un o chwe sefydliad drwy Gymru i arddangos y llythyr.
Anfonodd Owain Glyndŵr lythyr yn 1406, sef Llythyr Pennal fel y daethpwyd i’w adnabod, at Charles VI, Brenin Ffrainc, yn gofyn iddo am ei gymorth â’i wrthryfel yn erbyn y Saeson. Ynddo, mae’n esbonio’r hyn y byddai’n barod i’w ildio fel tâl am gymorth y Brenin - y consesiwn mwyaf yw cydnabod Benedict XIII o Avignon yn Bab.
Cafodd y llythyr ei gyfansoddi yn ystod synod yr Eglwys Gymreig ym Mhennal ym 1406. Mae’n rhoi cipolwg inni o uchelgais Glyndŵr a’i weledigaeth ar gyfer Cymru newydd a hunanymreolus, gyda’i heglwys annibynnol ei hun a dwy brifysgol.
Mae’r llythyr gwreiddiol yn yr Archives Nationales ym Mharis ac mae’r copïau hyn wedi’u paratoi gan staff y Llyfrgell Genedlaethol o dan arweiniad Julian Thomas, Uned Triniaeth Cadwraeth. Maen nhw’n gopïau cywir o’r gwreiddiol ac wedi’u creu ar femrwn gan ddefnyddio technegau heneiddio arbenigol. Mae sêl Glyndŵr wedi’i hail-greu o fowldiau o’r gwreiddiol.
Noder: Ni fydd Llythyr Pennal i’w weld ar 5-8 Mai oherwydd gwaith atgyweirio yn yr ardal arddangos. Bydd y Llythyr ar gael i'w weld o 11 Mai ymlaen.
Swyddfa'r Wasg
Medi Jones-Jackson
01970 632 534
medi.jones-jackson@llgc.org.uk