Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Mer, 06 Mai 09 14:39:00
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn gofyn i gynulleidfa fyd-eang o ddefnyddwyr gwefan ffotograffau Flickr, i’w helpu i enwi llefydd a phobl o Sir Faesyfed ganrif yn ôl.
Lansiwyd dros gant o ffotograffau heddiw (Dydd Iau 7 Mai 2009) ar wefan Flickr gan y Llyfrgell Genedlaethol - y llyfrgell Brydeinig cyntaf i ymuno â phrosiect Flickr Commons.
Ers 2008 mae Flickr Commons wedi creu llwyfan i rhai o drysorau cudd archifau ffotograffau’r byd. Mae’r wefan yn galluogi defnyddwyr i adael sylwadau am ffotograffau a, gan hynny, helpu’r Llyfrgell i adnabod rhai llefydd a phobl sydd heb eu hadnabod eto. Mae sawl sefydliad trwy’r byd bellach hefyd wedi datblygu tudalen ar wefan Flickr gan gynnwys, Llyfrgell y Gyngres America, Tŷ ffotograffau George Eastman a’r Imperial War Museum yn Llundain.
Mae’r Llyfrgell wedi dechrau’r ymgyrch drwy lwytho cant o luniau o gasgliad P B Abery, a fu’n tynnu lluniau o ardal Maesyfed o 1890 i 1940. Mae’r casgliad eang yn cynnwys lluniau doniol a hanesyddol, o gi yn ysmygu cetyn neu dyrcwn yn cerdded lawr y ffordd i luniau dogfennol o fyd amaeth a nifer o leoliadau, pobl a thirwedd Maesyfed .
Yn ôl Andrew Green, y Llyfrgellydd,
‘Mae gwefan Flickr yn galluogi’r Llyfrgell i ehangu mynediad y cyhoedd at ein casgliad ffotograffau. Mae gennym dros 800,000 o luniau yn ein casgliad. Yn fwyaf pwysig mae Flickr yn galluogi pobl i roi sylwadau ar ein lluniau a helpu ni adnabod llefydd a phobl ynddyn nhw.'
Dolenni
Gwybodaeth Bellach
Medi Jones, Swyddfa’r Wasg LlGC: 01970 632 534 llinosmedi.jones@llgc.org.uk